Cyngor Sir Caerfyrddin yn rhybuddio trigolion am fasnachwyr twyllodrus sy'n targedu cymunedau lleol
12 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn annog trigolion i fod yn wyliadwrus yn dilyn cynnydd diweddar yn nifer y bobl sy'n galw heb wahoddiad yn cynnig gwasanaethau tirweddu a gwaith toi. Mae rhai trigolion wedi talu symiau mawr am waith oedd naill ai ddim wedi'i gwblhau neu am waith oedd o safon wael iawn.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyhoeddi nodyn atgoffa am yr arwyddion rhybuddio o ran masnachwyr twyllodrus ac yn darparu cyngor i helpu trigolion i amddiffyn eu hunain rhag yr arferion anonest hyn.
Mae'r arwyddion rhybuddio cyffredin o ran masnachwyr twyllodrus yn cynnwys:
- Galw yn eich cartref heb wahoddiad.
- Defnyddio tactegau sy'n rhoi cryn bwysau arnoch chi a'ch annog i ddechrau gwaith ar unwaith neu honni bod angen atgyweiriadau brys.
- Dim unrhyw waith papur ysgrifenedig yn cael ei ddarparu, fel amcangyfrifon neu gontractau.
- Mynnu bod taliadau mawr yn cael eu talu ymlaen llaw.
- Taliadau ychwanegol ar ôl i'r gwaith ddechrau, neu godi llawer gormod.
- Gwaith sy'n cael ei gyflawni'n wael neu'n ddiangen.
Mae'r Cyngor yn annog trigolion i wneud y canlynol:
- Sicrhewch eich bod bob amser yn cael o leiaf dri dyfynbris i gymharu prisiau cyn ymrwymo i unwaith waith.
- Peidiwch â thalu'r swm llawn hyd nes bod yr holl waith wedi'i gwblhau i safon foddhaol. Dylech osgoi talu mewn arian parod lle bo'n bosibl.
- Sicrhewch eich bod yn cael holl fanylion y gwaith yn ysgrifenedig.
- Cymerwch eich amser a pheidiwch â gadael i rywun eich rhuthro i wneud penderfyniadau.
- Os ydych chi'n llofnodi contract yn eich cartref, efallai y bydd gennych chi hawl i gyfnod ailfeddwl o 14 diwrnod.
- Ystyriwch ddefnyddio cynllun Prynu â Hyder (BWC) y Cyngor i ddod o hyd i fasnachwyr dibynadwy.
- Rhowch wybod am unrhyw bryderon neu weithgarwch amheus i wasanaeth Cyngor ar Bopeth i ddefnyddwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n gyfrifol am Faterion Defnyddwyr a Busnes:
Rydyn ni am sicrhau bod ein trigolion yn gwbl ymwybodol o'r risgiau sy'n gysylltiedig â masnachwyr twyllodrus a'u bod yn meddu ar y wybodaeth i amddiffyn eu hunain. Os yw pobl yn galw gyda chi heb wahoddiad neu os oes gennych chi bryderon am waith sy'n cael ei wneud ar eich eiddo, cysylltwch â ni neu'r gwasanaeth Cyngor ar Bopeth ar unwaith."
Mae trigolion yn cael eu hannog i fod yn effro ac i rannu'r wybodaeth hon â theulu, ffrindiau a chymdogion.
