Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau â gweithrediadau adfer ac atgyweirio yn dilyn llifogydd
19 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau â'i ymdrechion wrth i'r sir adfer yn dilyn effaith y llifogydd yn gynharach yr wythnos hon (dydd Mawrth 4 a dydd Mercher 5 Tachwedd).
Mae criwiau'n parhau i asesu rhwydweithiau priffyrdd a seilwaith cysylltiedig, gan wneud gwaith atgyweirio yn ôl yr angen.
O heddiw, mae'r ffyrdd canlynol yn parhau i fod ar gau oherwydd difrod llifogydd neu asesiadau diogelwch parhaus:
- Pont Meidrim
- Pont Ffatri Glangwili ar hyd ffordd ddiddosbarth yr U2096
- Rhwng Llanfynydd a'r A40 Pontargothi (yr C2053) ger yr eiddo Graig yr Afar
Bydd criwiau ac adnoddau ychwanegol hefyd wrth law dros y penwythnos mewn ymateb i effaith y llifogydd.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Davies-Evans, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Mae ein timau'n parhau i weithio'n ddiflino i gefnogi preswylwyr, atgyweirio ein priffyrdd ac asesu'r difrod a achoswyd gan lifogydd yr wythnos hon. Rwyf am ddiolch i bawb sy'n rhan o hyn am eu hymdrechion parhaus a'r gymuned am eu gwytnwch yn ystod yr hyn sydd wedi bod yn gyfnod heriol iawn.”
Mae'r Cyngor yn parhau i ddarparu cymorth ymarferol ac ariannol i aelwydydd a busnesau sydd wedi dioddef llifogydd mewnol.
- Mae taliad o £500 ar gael i aelwydydd sydd wedi profi llifogydd mewnol.
- Mae £1,000 ychwanegol ar gael i ddeiliaid tai heb yswiriant.
- Gall y Cyngor hefyd helpu i gael gwared ar nwyddau a dodrefn sydd wedi'u difrodi, ond dylai preswylwyr gysylltu â'u darparwr yswiriant yn gyntaf i gael cyngor cyn cyflwyno ceisiadau.
Cyngor ynghylch llifogydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru
Os yw llifogydd wedi effeithio arnoch chi:
- Dilynwch gyngor y gwasanaethau brys
- Cadwch draw oddi wrth ddŵr llifogydd. Peidiwch â cherdded, gyrru na gadael i blant neu anifeiliaid anwes chwarae mewn dŵr llifogydd.
- Os oes rhaid i chi fynd i mewn i'r dŵr, gwisgwch fenig gwrth-ddŵr ac esgidiau rwber a chofiwch edrych yn ofalus am unrhyw beryglon cudd.
- Cadwch unrhyw friwiau neu glwyfau agored yn lân ac yn sych. Defnyddiwch blasteri a rhwymynnau gwrth-ddŵr.
- Golchwch eich dwylo, yn enwedig ar ôl bod yn y toiled, cyn bwyta neu wrth baratoi bwyd - dyma'r ffordd bwysicaf o ddiogelu rhag clefydau niweidiol.
- Os nad oes gennych chi ddŵr glân, defnyddiwch hylif diheintio dwylo neu weips gwlyb.
- Os ewch chi’n sâl ar ôl llyncu dŵr llifogydd neu fwd yn ddamweiniol, yn enwedig os bydd dolur rhydd neu dwymyn arnoch chi neu os byddwch yn cael poen yn eich stumog o fewn 10 diwrnod ar ôl dod i gysylltiad â dŵr llifogydd neu garthffosiaeth - cysylltwch â Galw Iechyd Cymru 111 neu eich meddyg.
- Peidiwch â throi offer trydanol ymlaen os ydynt wedi bod mewn dŵr llifogydd hyd nes bod trydanwr cymwys wedi gwirio’r offer, gan fod perygl o gael eich trydanu.
- Dylai’r offer gwresogi a choginio gael gwasanaeth gan beiriannydd Gas Safe, hyd yn oed os ydynt yn edrych fel petaent yn gweithio'n iawn. Mae perygl o wenwyn carbon monocsid os nad yw’r offer yn gweithio'n iawn.
Rhagor o wybodaeth am ddelio â llifogydd gan gynnwys cyngor ynghylch sut i glirio'n ddiogel
