Cyngor Sir Caerfyrddin yn archwilio prosiectau draenio cynaliadwy newydd i ddiogelu afonydd lleol
1 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn bwrw ymlaen â chynlluniau i gyflwyno systemau draenio cynaliadwy (SuDS) ym meysydd parcio dwy dref wledig fel rhan o'i ymrwymiad parhaus i wella ansawdd dŵr a diogelu amgylchedd naturiol y sir.
Bydd y Prosiect Afonydd Iach yn archwilio opsiynau draenio cynaliadwy ar gyfer Maes Parcio Llanymddyfri a Maes Parcio Castellnewydd Emlyn. Nod y cynlluniau arfaethedig yw lleihau faint o ddŵr wyneb ffo sy'n mynd i mewn i rwydweithiau draenio lleol ac afonydd cyfagos. Trwy gyflwyno nodweddion systemau draenio cynaliadwy, bydd glawiad yn cael ei arafu a'i hidlo lle mae'n glanio, yn hytrach na llifo oddi ar y tarmac ac i mewn i'r draen.
Bydd y dull arloesol hwn yn helpu i leihau'r risg o orlif stormydd, gwella ansawdd dŵr lleol, a chefnogi'r gwaith o ddiogelu Ardaloedd Cadwraeth Arbennig y Teifi a'r Tywi rhag cyfoethogi maetholion.
Mae cyllid ar gyfer cam datblygu'r prosiectau wedi'i sicrhau gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Er mwyn sicrhau bod y cymunedau lleol yn cael cyfle i ddysgu mwy a rhannu eu barn, cynhelir sesiynau galw heibio yn y ddwy dref:
• Llanymddyfri - Y Gannwyll, Dydd Mercher, 25 Tachwedd 10am – 2pm
• Castellnewydd Emlyn – Neuadd Cawdor, Dydd Iau 27 Tachwedd, 10am–2pm
Bydd swyddogion y cyngor wrth law yn y ddwy sesiwn i drafod y cynigion a chasglu adborth gan drigolion.
I'r rhai nad ydynt yn gallu mynychu'n bersonol, bydd cyfle hefyd i roi eu barn drwy ffurflen adborth ar-lein, sydd ar gael ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.
Fel rhan o'r fenter ehangach, bydd plant ysgolion lleol yn cymryd rhan mewn gweithdai addysgol pwrpasol dan arweiniad Ynni Sir Gâr, gan ganolbwyntio ar bwysigrwydd y cylch dŵr a sut y gall cymunedau gwledig chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi ecosystemau lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:
Mae'r Prosiect Afonydd Iach yn gam hanfodol ymlaen yn y ffordd yr ydym yn rheoli dŵr ac yn diogelu ein hamgylchedd naturiol yma yn Sir Gaerfyrddin. Trwy fabwysiadu systemau draenio cynaliadwy, rydyn ni nid yn unig yn lleihau llygredd a'r risg o lifogydd ond hefyd yn gwella iechyd ein hafonydd a'r bywyd gwyllt y maent yn eu cefnogi.”
