Cyhoeddi hysbysiad statudol ynghylch y bwriad i gau Ysgol Llansteffan
7 awr yn ôl
Heddiw (25 Tachwedd 2025), mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyhoeddi hysbysiad statudol, yn unol ag Adran 43 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2013, yn cynnig cau Ysgol Llansteffan.
Gall aelodau'r cyhoedd gyflwyno gwrthwynebiadau cyn pen 28 diwrnod i'r dyddiad cyhoeddi tan 23 Rhagfyr 2025. Mae modd cyflwyno gwrthwynebiadau drwy lenwi'r arolwg ar-lein; drwy anfon e-bost at neu drwy ysgrifennu at:
Mr Owain Lloyd
Cyfarwyddwr Addysg a Hamdden
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP
Cafodd y penderfyniad i gyhoeddi hysbysiad statudol i Ysgol Llansteffan ei gytuno yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin ddydd Llun 17 Tachwedd 2025.
Os caiff ei gymeradwyo, bydd y cynnig yn dod i rym o 31 Awst 2026, a bydd dalgylch presennol Ysgol Llansteffan yn cael ei ailddynodi ac yn dod yn rhan o ddalgylch presennol Ysgol Llangain, sydd hefyd yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg.
Mae digon o leoedd yn Ysgol Llangain i addysgu disgyblion sy'n mynychu Ysgol Llansteffan ar hyn o bryd, heb fod angen mesurau ychwanegol. Byddai cludiant ysgol yn parhau i gael ei ddarparu yn unol â Pholisi Cludiant Ysgol y Cyngor a byddai'r trefniadau trosglwyddo i ysgol uwchradd hefyd yn aros yr un fath.
Mae Ysgol Llansteffan wedi'i nodi yn seiliedig ar feini prawf hyfywedd yn y Rhaglen Moderneiddio Addysg, a gymeradwywyd gan y Cabinet ar 18 Tachwedd 2024.
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg:
“Rydyn ni'n sylweddoli mor anodd yw'r sefyllfa hon i'r rhai sy'n gysylltiedig ag Ysgol Llansteffan, ac rydyn ni'n cydymdeimlo'n llwyr â'r rhieni, y staff, y llywodraethwyr a'r gymuned leol.
Rydyn ni'n annog unrhyw un sydd â barn am y cynnig i'w chyflwyno yn ystod y cyfnod gwrthwynebu fel bod modd ei hystyried yn llawn cyn i unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud.”
