Carnifal Llanelli yn dechrau dathliadau'r Nadolig mewn steil

1 diwrnod yn ôl

Daeth dros 15,000 o ymwelwyr i lenwi strydoedd canol tref Llanelli ddydd Gwener, 21 Tachwedd 2025, i ddathlu Carnifal Nadolig blynyddol y dref.

Cafodd y gwylwyr sioe wych yn y carnifal eleni wrth i 20 o lorïau wedi'u haddurno gludo gwahanol grwpiau cymunedol o bob rhan o Lanelli yn ogystal â hen loriau a thractorau ac wrth gwrs Siôn Corn yn ei sled.

Diolch yn fawr iawn i wirfoddolwyr Ford Gron Llanelli ac Owens Group am gydlynu gorymdaith y carnifal ac i Owens Group ac i M & M Greene ac Oliver Jordan Transport am gyflenwi a gyrru'r cerbydau.

Llongyfarchiadau i Sophia Walker, Ysgol Gynradd Halfway ac Ashton Davies, Ysgol Pum Heol ac sydd bellach yn Ysgol y Santes Fair, a goronwyd yn enillwyr y categorïau babanod ac iau yn y gystadleuaeth dylunio goleuadau Nadolig eleni. Bydd y ddau ddyluniad buddugol yn cael eu harddangos yn y dref yn ystod cyfnod y Nadolig.

Mae'r gystadleuaeth dylunio goleuadau Nadolig yn cael ei threfnu a'i hwyluso gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cynghorau Gwledig a Thref Llanelli, Siambr Fasnach Llanelli ac Ymlaen Llanelli.

Carnifal Nadolig Llanelli yw un o'r digwyddiadau Nadolig cymunedol mwyaf yng Nghymru, ac fe'i cyflwynir mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Tref Llanelli, Cyngor Gwledig Llanelli a Ford Gron Llanelli a chaiff y ffair bleser ei chyflenwi gan South Wales Showmen’s Guild.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Mae Carnifal Nadolig Llanelli yn achlysur gwych i'r teulu ac mae unwaith eto wedi darparu digwyddiad gweledol ysblennydd. Roedd yn wirioneddol wych gweld ysbryd cymunedol Llanelli ac ymwelwyr yn dod o bell ac agos i ddathlu gyda'i gilydd.”