Y Cyngor yn nodi Wythnos Hinsawdd Cymru
13 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn nodi Wythnos Hinsawdd Cymru (3-7 Tachwedd) drwy lansio Gweithredu ar Newid Hinsawdd Sir Gâr a chyhoeddi Adolygiad Canol Rhaglen y Cyngor o'r Cynllun Sero Net.
Mae'r Adolygiad Canol Rhaglen o Gynllun Sero Net y Cyngor yn tynnu sylw at sut mae'r Cyngor wedi llwyddo i leihau allyriadau carbon 37%, gan ollwng bron i 10,000 tunnell yn llai na'n blwyddyn sylfaenol (2016/17). Mae hyn yn ddigon o nwy i lenwi Parc y Scarlets 11 gwaith!
Mae Gweithredu ar Newid Hinsawdd Sir Gâr yn dwyn ynghyd y gwaith sy'n cael ei wneud ar draws adrannau'r Cyngor i liniaru newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo, gwarchod a gwella'r amgylchedd naturiol ac adeiladu dyfodol cynaliadwy ar gyfer y cenedlaethau nesaf.
Gallwch chi ddysgu mwy am Gweithredu ar Newid Hinsawdd Sir Gâr ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:
Yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru rydyn ni'n cydnabod y gwaith helaeth sy'n cael ei wneud ar draws adrannau'r Cyngor i leihau allyriadau carbon, lliniaru newid yn yr hinsawdd ac adeiladu dyfodol cynaliadwy i Sir Gaerfyrddin.”
Mae Wythnos Hinsawdd Cymru yn ddigwyddiad blynyddol sy'n dod â'r sector cyhoeddus, busnesau, diwydiant a chymunedau ynghyd i drafod penderfyniadau a chamau gweithredu yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd. Mae'r thema eleni yn canolbwyntio ar greu cynllun ymarferol ar gyfer lleihau allyriadau carbon yn ystod y pum mlynedd nesaf a thu hwnt, gyda ffocws penodol ar ddatgloi manteision newid.
I nodi'r digwyddiad, mae Gweithredu ar Hinsawdd Cymru yn cynnal cynhadledd rithwir sy'n canolbwyntio ar feysydd fel tai, trafnidiaeth ac amaethyddiaeth.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i weithio tuag at ei nod o fod yn awdurdod lleol Sero Net erbyn 2030 i helpu i lunio dyfodol ffyniannus a chynaliadwy ar gyfer y cenedlaethau nesaf. Mae'r ymdrechion hyn yn gwella'r amgylchedd naturiol yn ogystal â llesiant cymunedau.
Mae hyn yn rhan o fenter 'Gweithredu ar Newid Hinsawdd Sir Gâr' i annog pawb i helpu i leihau newid yn yr hinsawdd a gwarchod a gwella amgylchedd naturiol Sir Gaerfyrddin.
