Y Cyngor yn cyflwyno Asesiad Effaith Economaidd a Chymdeithasol y Scarlets i Undeb Rygbi Cymru
5 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyflwyno asesiad effaith economaidd a chymdeithasol ar Rygbi'r Scarlets i Undeb Rygbi Cymru, fel rhan o'r broses ymgynghori ynghylch cynigion fydd yn helpu i lunio dyfodol rygbi rhanbarthol yng Nghymru.
Lluniwyd Asesiad Effaith Economaidd a Chymdeithasol y Scarlets gan SQW, ac mae'n rhoi i ni olwg annibynnol ar gyfraniad enfawr y Scarlets i Lanelli, i Sir Gaerfyrddin gyfan a thu hwnt, a hynny fel yr unig glwb rygbi proffesiynol yng Nghymru sydd mewn ardal lle mae'r rhan fwyaf yn siarad Cymraeg.
Mae hyn yn cynnwys y budd economaidd mae'r Scarlets yn ei gynhyrchu; £17.3 miliwn mewn gwerth ychwanegol gros yn 2024/25, gan gefnogi 336 o swyddi ledled Sir Gaerfyrddin a'r rhanbarth. Dros bum mlynedd, gallai'r effaith hon fod yn fwy na £102 miliwn, gyda'r posibilrwydd o dwf pellach sylweddol wrth i'r clwb barhau i adfer ac ehangu ar ôl y pandemig.
Mae'r clwb hefyd yn sefydliad angor fel un o gyflogwyr mwyaf yr ardal, ac yn darparu rhaglen helaeth o weithgareddau cymunedol ar gyfer pob oedran a gallu. Yn ogystal, mae'r clwb yn codi proffil Sir Gaerfyrddin a Chymru ar lwyfan byd-eang.
Daw cyflwyno'r Asesiad Effaith yn dilyn llythyr ar y cyd gan Arweinydd a Phrif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin i'r Undeb fel rhan o'r broses ymgynghori.
Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:
Mae'r Scarlets yn llawer mwy na chlwb rygbi. Maen nhw'n ysgogi twf economaidd, yn sylfaen i lesiant cymuned, ac yn llysgennad balch dros ddiwylliant a gwerthoedd ein rhanbarth. Mae eu presenoldeb a'u llwyddiant parhaus yn hanfodol nid yn unig i Sir Gaerfyrddin, ond i ddyfodol rygbi rhanbarthol a'r rhai sy'n rhan o gymunedau'r rhanbarth.”