Tîm mam a merch sy'n ofalwyr maeth arbennig yn croesawu plant i’w cartref

6 diwrnod yn ôl

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae mam a merch sy'n maethu gyda'i gilydd wedi croesawu mwy na dwsin o blant i'w cartref mewn tair blynedd.

Fel rhan o Wythnos Plant Gofalwyr Maeth (13-19 Hydref 2025), mae gofalwyr maeth, Maethu Cymru Sir Gâr, yn rhannu straeon am sut mae eu plant wedi helpu'r rhai sydd yn eu gofal deimlo'n hapusach, yn fwy diogel a theimlo eu bod yn cael eu croesawu a'u caru.

Mae Ammanys, 24, a'i mam Louise, 49, wedi bod yn maethu am y tair blynedd diwethaf gan groesawu plant o wahanol oedrannau i'w cartref.

Dywedodd Ammanys, Gofalwr Maeth Sir Gâr:

Roedd hwn yn rhywbeth roedd fy mam bob amser am ei wneud ond penderfynodd ei bod hi'n mynd i aros nes i mi orffen yn y brifysgol. Yna fe benderfynon ni faethu gyda'n gilydd.”

Dywedodd Ammanys fod maethu fel tîm mam a merch wedi bod yn gryfder yn eu dull o ofalu am blant sydd angen cartref cariadus.

Rwy'n credu bod y dull yma o ddwy genhedlaeth yn helpu. Rydyn ni'n gweld pethau'n wahanol i'n gilydd ac mae hynny'n ein helpu gyda gwahanol oedrannau. Mae'n rhoi'r fantais honno i ni. Rydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd yn dda fel tîm.”

Er mwyn helpu plant i deimlo eu bod yn cael eu croesawu, dechreuodd y pâr draddodiad sef gofyn i unrhyw newydd-ddyfodiaid nodi eu holion bysedd ar goeden deuluol.

Mae'n farc sy'n nodi'r diwrnod y daethon nhw atom. Does dim gwahaniaeth pa mor hir maen nhw'n aros gyda ni, byddan nhw bob amser yn cael lle yma. Mae'n gyfnod gofidus a does dim gwahaniaeth pa mor hir maen nhw wedi bod mewn gofal, mae dal yr un peth.” 

Dywedodd Ammanys fod y ddwy ohonynt wedi cael mwynhad o fod yn ofalwyr maeth ac yn ei argymell i eraill.

Mae'n wirioneddol werth chweil. Mae'n wych gweld y plant yn datblygu ac i sylwi ar y pethau bach mae'n llwyddo i'w gwneud. Pan fyddant yn cyrraedd pwynt lle maen nhw'n teimlo'n ddiogel, gall wneud gwahaniaeth enfawr. Rydyn ni wedi gwneud llawer o faethu tymor byr ac mae gwybod eich bod wedi gwneud rhywbeth, hyd yn oed rhywbeth bach, i wneud ychydig o wahaniaeth yn werth chweil.”

 

 

 

 

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, Plant a Theuluoedd:

Mae'n wych gweld teuluoedd fel Ammanys a Louise yn agor eu calonnau a'u cartref i blant a phobl ifanc sydd angen sefydlogrwydd, gofal a chariad. Mae eu stori yn enghraifft berffaith o sut y gall maethu ddod â theuluoedd at ei gilydd a gwneud gwahaniaeth parhaol ym mywyd plentyn."

I gael gwybod mwy am ddod yn ofalwr maeth yn Sir Gaerfyrddin, ewch i Maethu Cymru Sir Gâr.