Hwyl hanner tymor ar draws Sir Gâr

7 diwrnod yn ôl

Gall teuluoedd ledled Sir Gaerfyrddin edrych ymlaen at hanner tymor prysur mis Hydref sy'n llawn gweithgareddau a digwyddiadau.

Mae amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin yn llawn hwyl arswydus yr hanner tymor hwn. Yn Amgueddfa Sir Gâr, Abergwili (28 Hydref), mae Dirgelwch yn yr Amgueddfa yn dychwelyd gyda llwybr ar ôl oriau lle gall teuluoedd ddilyn cliwiau i ddarganfod Llyfr Melyn coll Abergwili. Yn yr Amgueddfa Cyflymder, Pentywyn (29 Hydref), dewch i greu Jariau Corryn Goleuedigo ddeunyddiau wedi'u hailgylchu a goleuadau disglair - atgofion Calan Gaeaf perffaith. Yn y cyfamser yn Amgueddfa Parc Howard, Llanelli (22 Hydref–2 Tachwedd), gall plant gymryd rhan yng Nghystadleuaeth Lliwio Tŷ Bwgan i gael cyfle i ennill Hamper Calan Gaeaf a gweld eu dyluniadau brawychus yn cael eu harddangos yn yr amgueddfa.

Ym Mharc Gwledig Pen-bre, mwynhewch Golff Arswydus yn y Tywyllwch, antur golff bach ar thema Calan Gaeaf a dilynwch y Llwybr Pwmpenni o amgylch y parc i weld syrpreisis tymhorol cudd.

Chwilio am wyliau hanner tymor brawychus? Caban Pendine yn cynnig bargeinion arbennig, gan gynnwys cynnig aros 3 am 2, yn ogystal ag arhosiad dros nos am ddim gyda chinio a brecwast i ofalwyr di-dâl. Tra byddwch chi yno, ewch â'ch ffyn tywynnu a mwynhewch rownd ofnadwy o hwyl o golff mini o dan y sêr.

Mae Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin yn cynnig wythnos o hwyl greadigol, ar thema Calan Gaeaf. Yn Llyfrgell Rhydaman, gall teuluoedd fwynhau gwneud gemwaith (28 Hydref), amser stori a lliwio (29 Hydref), a gweithdy dyfrlliw i blant (30 Hydref). Bydd pob un o'r tair prif lyfrgell, Rhydaman, Llanelli a Chaerfyrddin, yn cynnal Gweithdy Sleim Fizz Pop Science poblogaidd (30 Hydref – rhaid archebu lle), ac ar ddiwedd yr wythnos bydd chrefftau Calan Gaeaf (31 Hydref). Mae Llyfrgelloedd Llanelli a Chaerfyrddin hefyd yn cynnal sesiynau Calan Gaeaf arswydus lle gall plant ddylunio eu mwg eu hunain. Gemau galw heibio, adeiladu LEGO, crefftau a gweithgareddau lliwio.

Mae Theatrau Sir Gâr yn llawn hwyl i'r teulu! Mae Jurassic Earth Life yn dod ag antur deinosoriaid 75 munud i Theatr y Ffwrnes, Llanelli. Hefyd yn ymddangos yn y Ffwrnes bydd y perfformwyr ifanc o New Heights Performance Academy a fydd yn camu i'r llwyfan gyda Shrek, the Musical Jr. Paratowch am noson o sbloets, glamor ac anhrefn corfforol wrth i sêr Welsh Wrestling ddod i Theatr y Lyric. I'r rhai sydd â phlant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau, byddwch yn barod am barti fel pe bai hi'n 1985 wrth i Carmarthen Amateur Operatic Society ddod âThe Wedding Singer: The Musical yn fyw. I gael y manylion llawn, ewch ar wefan Theatrau Sir Gâr www.theatrausirgar.co.uk

Gall teuluoedd fwynhau ystod o weithgareddau yng Nghanolfannau hamdden Actif ond y prif atyniad yr hanner tymor hwn yw Canolfan Pentre Awel , prosiect blaenllaw diweddaraf Cyngor Sir Caerfyrddin. Mae'r hwb iechyd, hamdden a llesiant newydd sbon, o'r radd flaenaf, yn cynnwys dau bwll nofio, pwll hydrotherapi, campfa fodern, stiwdios ffitrwydd, neuadd chwaraeon wyth cwrt, caffi a mannau cymunedol bywiog. Gall plant fwynhau sesiynau nofio, dosbarthiadau ffitrwydd iau, a gweithgareddau addas i deuluoedd, i gyd mewn amgylchedd cyffrous, modern sy'n sicrhau bod cadw'n egnïol yn hwyl i bob oedran.

Ar draws y sir, mae grwpiau cymunedol a lleoliadau lleol yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau. Mae manylion llawn ar Darganfod Sir Gâr

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Mae hanner tymor yn Sir Gaerfyrddin yn llawn creadigrwydd, hwyl ac ysbryd cymunedol. Rwy'n annog teuluoedd i fynd mas, archwilio, a mwynhau'r ystod wych o ddigwyddiadau sy'n digwydd ledled y sir.”