Gwobr Aur y Lluoedd Arfog i Gyngor Sir Caerfyrddin am fod yn un o'r cyflogwyr gorau yng Nghymru

2 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cael ei gydnabod fel un o ddeuddeg o gyflogwyr o Gymru i gael Gwobr Aur y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr (ERS) mewn seremoni a gafodd ei chynnal yng Nghaerdydd. 
Mae'r wobr fawreddog yn cydnabod cymorth rhagorol a gafodd ei roi i Gymuned y Lluoedd Arfog, gan gynnwys personél y lluoedd arfog, cyn-filwyr a'u teuluoedd. Cafodd y seremoni ei chynnal yn HMS CAMBRIA, Bae Caerdydd ar 25 Medi, 2025.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys diodydd a pherfformiadau cerddorol gan Cerys Rees, sef telynores gatrawd y Cymry Brenhinol, a Band Catrawd y Cymry Brenhinol. Sian Lloyd oedd cyflwynydd y digwyddiad, gyda sylwadau agoriadol gan James Evans AS, Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar gyfer y Lluoedd Arfog a'r Cadetiaid, a'r Brigadwr Russ Wardle, OBE DL, Cadeirydd Cymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru. Cafodd y prif anerchiad ei draddodi gan y Comodor Tris Kirkwood, OBE ADC, Comander Rhanbarthol y Llynges ar gyfer Cymru, Gorllewin Lloegr ac Ynysoedd y Sianel.


Cafodd y Wobr Aur ei chyflwyno i'r sefydliadau canlynol o Gymru:

  • Gwyliau Bythynnod Basel
  • Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Cyngor Sir Ceredigion
  • Dŵr Cymru
  • Edwin C. Farrall (Transport) Ltd
  • Gatewen Training Services Limited
  • Ysgol Rydal Penrhos
  • Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
  • SudoCyber Limited
  • The Mentor Ring Limited
  • Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru
  • Wurkplace Limited

Cafodd y gwobrau eu cyflwyno ar y cyd gan y Comodor Tris Kirkwood OBE ADC, y Brigadwr Mark Davis CBE, Comander Brigâd 160 (Cymru) a Phennaeth y Fyddin yng Nghymru, ynghyd â Rob Woods OBE, Comodor yr Awyrlu, Swyddog Awyr Cymru.


Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gweinyddu'r Cynllun Cydnabod Cyflogwyr, sy'n cydnabod yn ffurfiol sefydliadau sy'n cyflogi ac yn cefnogi'r rhai sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, gan gynnwys cyn-filwyr a'u teuluoedd. Eleni, cafodd 202 o sefydliadau ledled y DU y Wobr Aur.


Er mwyn cyflawni'r Wobr Aur, mae'n rhaid i gyflogwyr wneud y canlynol:

  • Darparu o leiaf 10 diwrnod o absenoldeb â thâl ychwanegol i filwyr wrth gefn
  • Gweithredu polisïau Adnoddau Dynol i gefnogi cyn-filwyr a Gwirfoddolwyr sy'n Oedolion gyda'r Cadetiaid
  • Eirioli dros Amddiffyn ar draws eu rhwydweithiau a'u sectorau
  • Dangos ymrwymiad parhaus y tu hwnt i'r gofynion gofynnol

Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: 

Rydym yn falch o dderbyn Gwobr Aur y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr. Mae'n dangos ein hymrwymiad parhaus i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog.
Rydym yn gwerthfawrogi ymroddiad ac aberth y rhai sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a'u teuluoedd. Mae'r wobr hon yn adlewyrchu ein haddewid i ddarparu cymorth go iawn trwy bolisïau, absenoldeb ychwanegol a thrwy godi ymwybyddiaeth, gan sicrhau bod y rhai sy'n gwasanaethu'n cael eu parchu a'u cefnogi o fewn y cyngor ac ar draws ein cymuned.”


Os hoffai sefydliadau ddarganfod rhagor am ddangos cefnogaeth i Gymuned y Lluoedd Arfog neu am lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog, mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://www.armedforcescovenant.gov.uk/show-your-support/sign-the-covenant/