Cyngor Sir Caerfyrddin yn cefnogi gweithredu lleol dros ymwybyddiaeth o ganser ac iechyd meddwl ym mis Hydref
20 awr yn ôl

I gydnabod Mis Ymwybyddiaeth o Ganser y Fron a Diwrnod Iechyd Meddwl ar 10 Hydref, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn tynnu sylw at ystod o brosiectau cymunedol a gefnogir drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, o dan y Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy. Mae'r mentrau hyn yn darparu gwasanaethau wedi'u targedu i wella iechyd, llesiant a chydnerthedd ledled y sir.
Mae'r prosiectau hyn yn darparu gwasanaethau hanfodol ar draws y sir, yn gwella iechyd a llesiant, yn cryfhau cysylltiadau cymunedol, ac yn mynd i'r afael â materion sydd bwysicaf i breswylwyr lleol.
Un o'r sefydliadau sy'n derbyn cymorth yw Angor, elusen sy'n cynnig cymorth emosiynol ac ymarferol am ddim i unigolion sydd wedi cael diagnosis o ganser neu salwch sy'n cyfyngu ar fywyd. Diolch i gyllid ar gyfer swyddog allgymorth gwledig newydd, gall Angor bellach gyrraedd mwy o bobl mewn cymunedau gwledig, gan ddod â'u gwasanaethau tosturiol yn agosach at y rhai sydd eu hangen fwyaf. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.angor.org.uk
Mae iechyd meddwl yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol, ac mae Sefydliad Jac Lewis yn gweithio i ehangu ei wasanaethau iechyd meddwl sydd eisoes yn llwyddiannus trwy ddatblygu Hwb Iechyd a Llesiant newydd yn Rhydaman. Mae astudiaeth ddichonoldeb wedi'i ariannu ar y gweill ar hyn o bryd, sy'n cynnwys ymgynghori â'r gymuned, gyda'r nod o sicrhau buddsoddiad yn y dyfodol i ddod â'r hwb yn fyw. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.jaclewisfoundation.co.uk
Gall cael mynediad at wasanaethau hanfodol fod yn her wirioneddol mewn ardaloedd gwledig. Diolch i gyllid newydd, mae Dolen Teifi, y grŵp trafnidiaeth dan arweiniad gwirfoddolwyr wedi prynu bws mini i ddarparu cludiant fforddiadwy a rheolaidd i breswylwyr a grwpiau yn ardal Llandeilo, gan helpu i wella cysylltedd a lleihau ynysu. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.dolenteifi.org.uk
Wrth i'r gaeaf agosáu, mae help hefyd ar gael i gefnogi pobl â chostau ynni. Mae cyllid ar gyfer Ymgynghorydd Ynni pwrpasol gyda Chyngor ar Bopeth Caerfyrddin yn galluogi'r tîm i barhau i gynnig cyngor wedi'i deilwra ar leihau biliau ynni a chael mynediad at gymorth ariannol i helpu preswylwyr i gadw'n gynnes ac yn iach. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.carmarthenshire-ca.org.uk
Mae cyfanswm o 26 o brosiectau wedi derbyn cyllid drwy'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy 2, gyda dros £1.7 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn ystod eang o fentrau o welliannau cyfleusterau cymunedol a phrosiectau economi gylchol, i wasanaethau bad achub.
Dywedodd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Drwy Raglen Cymunedau Cynaliadwy Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, rydym yn galluogi sefydliadau ledled Sir Gaerfyrddin i ddarparu gwasanaethau hanfodol sy'n cefnogi pobl leol yn uniongyrchol. O atebion trafnidiaeth wledig i gymorth iechyd meddwl a chyngor ynghylch ynni, mae'r prosiectau hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol lle mae ei angen fwyaf.”
I ddarganfod mwy am y prosiectau ysbrydoledig sy'n cael eu cefnogi ledled Sir Gaerfyrddin, ewch i'n tudalen prosiectau yma: Prosiectau'r Gronfa Cymunedau Cynaliadwy