Cyngor Sir Caerfyrddin yn atgyfnerthu'r ymgyrch i fynd i'r afael â sbwriel bwyd brys
3 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn atgyfnerthu ei ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus o dan brosiect Caru Sir Gâr, sef 'Paid â gwastraffu £125 – i'r bin ag ef, paid â mentro' i fynd i'r afael â phroblem sbwriel bwyd brys ar draws y rhanbarth.
Gan adeiladu ar yr ymgyrch a gafodd ei lansio ym mis Tachwedd 2024, mae'r ymdrech newydd hon - sy'n cael ei hariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU – yn parhau i dynnu sylw at bwysigrwydd gwaredu gwastraff yn gyfrifol a'r costau amgylcheddol ac ariannol sydd gan ein cymunedau yn sgil sbwriel sy'n cael ei daflu.
Mae sbwriel yn dal i gael effaith fawr ar barciau, strydoedd a thirweddau naturiol Sir Gaerfyrddin. Mae eitemau fel deunydd pecynnu bwyd brys a chynwysyddion diodydd nid yn unig yn difetha'r amgylchedd ond hefyd yn creu baich ariannol i'r sir. Trwy atgyfnerthu'r ymgyrch, mae'r Cyngor yn atgoffa'r cyhoedd bod pob trosedd taflu sbwriel yn destun Hysbysiad Cosb Benodedig o £125, sy'n cael ei leihau i £95 os caiff ei dalu cyn pen 10 diwrnod. Gallai methu â thalu arwain at achos llys a chosbau posibl o hyd at £2,500.
Mae'r ymgyrch hon yn canolbwyntio ar y broblem o sbwriel sy'n gysylltiedig ag eitemau bwyd brys. Mae deunydd pecynnu bwyd brys yn aml yn aros yn yr amgylchedd, gan beri bygythiad i fywyd gwyllt a chyfrannu at lygredd gweledol.
Trwy waredu gwastraff yn gyfrifol, rydym yn diogelu ein hamgylchedd ac yn gofalu am ein cymunedau lleol.
Fel rhan o'r ymgyrch, mae'r Cyngor wedi cynhyrchu fideo byr sy'n tynnu sylw at eiliadau bob dydd lle mae trigolion yn dewis gwaredu gwastraff yn gyfrifol. Cafodd ei ffilmio mewn lleoliadau cyfarwydd ledled Sir Gaerfyrddin, ac mae'r fideo'n atgoffa'r gwylwyr y gall rhywbeth mor syml â defnyddio bin wneud gwahaniaeth mawr. Mae trigolion yn cael eu hannog i wylio a rhannu'r fideo i helpu i gynyddu ymwybyddiaeth.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith, y Cynghorydd Edward Thomas:
Mae'r ymgyrch hon yn mynd y tu hwnt i osgoi cosbau yn unig – mae'n ymwneud â meithrin ymdeimlad o falchder yn ein cymuned a diogelu ein hamgylchedd lleol. Trwy gymryd camau bach a chyfrifol wrth waredu gwastraff, gallwn ni i gyd helpu i gadw Sir Gaerfyrddin yn lân ac yn wyrdd.
Rydym yn galw ar bawb yn Sir Gaerfyrddin i fod yn rhan o'r ateb. Gadewch i ni ofalu am ein parciau, ein strydoedd a'n mannau cyhoeddus. Am osgoi dirwy o £125? I'r bin ag ef, paid â mentro."
