Cymorth emosiynol ac ariannol anhygoel gan Faethu Cymru Sir Gâr

50 diwrnod yn ôl

Fel rhan o ymgyrch Maethu yn Llanelli Maethu Cymru Sir Gâr, maen nhw'n parhau i fynd i'r afael â chamsyniadau cyffredin sy'n aml yn atal darpar ofalwyr maeth rhag gwneud ymholiadau. Un o'r pryderon mwyaf cyffredin sydd gan ddarpar ofalwyr maeth yw a fydden nhw'n cael digon o gymorth, yn emosiynol ac yn ariannol.

Mae Maethu Cymru Sir Gâr yn darparu system gymorth gref i ofalwyr maeth, gan gydnabod eu bod nhw'n chwarae rhan hanfodol ym mywydau plant a phobl ifanc mewn gofal maeth yn Sir Gâr. Mae'r cymorth hwn yn dechrau gyda hyfforddiant cyn cymeradwyo, fel Sgiliau i Faethu, ac mae'n parhau gyda chyfleoedd dysgu a datblygu.

Mae'r cymorth ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, ac yn cael ei roi gan weithwyr cymdeithasol profiadol a chymwys.

Yn Sir Gâr, mae ffocws cryf ar lesiant gofalwyr maeth. Mae cymorth ar gael, gan roi amser i ofalwyr maeth orffwys ac ymlacio, a chadw cysondeb i'r plant a'r bobl ifanc yn eu gofal ar yr un pryd. Hefyd mae gofalwyr maeth yn rhan o gymuned ehangach, ac mae digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd a chyfleoedd ar gael i gysylltu â gofalwyr maeth lleol eraill.

Caiff gofalwyr maeth amryw fuddion ymarferol hefyd, gan gynnwys aelodaeth am ddim i'r Rhwydwaith Maethu a'r New Family Social, cynlluniau disgownt trwy bartneriaid fel Cadw a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a'r Garden Golau Glas.

Mae Maethu Cymru Sir Gâr yn darparu cymorth ariannol wedi'i deilwra i anghenion penodol y plentyn neu'r person ifanc a lefel y gofal sydd ei angen. Yn unol â'u fframwaith taliadau maethu newydd, mae gofalwyr maeth yn derbyn pecyn sy'n amrywio o £351 i £942 yr wythnos, sy'n cyfuno lwfans anghenion y plentyn (gan gwmpasu hanfodion fel bwyd, dillad a chyfleustodau) â lwfans i gydnabod y sgiliau, yr amser a'r profiad y mae gofalwyr maeth yn eu rhoi i'r rôl.

Dywedodd Adam, Gofalwr Maeth Sir Gâr:

Mae maethu wedi cynnig cefnogaeth emosiynol ac ariannol anhygoel i mi.”

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant a Theuluoedd:

Mae gofalwyr maeth yn chwarae rôl arbennig wrth newid bywydau plant a phobl ifanc mewn gofal maeth yn Sir Gâr. Mae'n hanfodol eu bod nhw'n teimlo eu bod nhw'n cael eu cefnogi'n ymarferol, yn emosiynol ac yn ariannol. Rydyn ni yma i roi arweiniad a chymorth i'n gofalwyr maeth bob cam o'r ffordd.”

Bydd cyfres o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal ym Llyfrgell Llanelli:

  • Dydd Gwener, 17 Hydref 11am i 1pm
  • Dydd Gwener,  31 Hydref 11am i 1pm

Mae unrhyw un sydd â diddordeb mewn maethu yn cael ei annog i fod yn bresennol i gwrdd â'r tîm, i ofyn cwestiynau, ac i ddarganfod sut y gallai maethu gyd-fynd â'u bywydau. I weld digwyddiadau ar ddyddiadau/amseroedd eraill neu mewn lleoliadau eraill ledled Sir Gâr, ewch i Digwyddiadau Maethu Cymru Sir Gâr.

I ddysgu mwy am faethu neu i ddechrau eich taith faethu, ewch i Maethu Cymru Sir Gâr.