Carreg filltir bwysig i Lwybr Dyffryn Tywi wrth i ddwy ran newydd agor

1 diwrnod yn ôl

Mae'r gwaith ar Lwybr Dyffryn Tywi wedi cyrraedd cam newydd cyffrous, gyda dwy ran newydd sbon rhwng Llanarthne a Chilsan bellach ar agor. 

Disgwylir rhagor o gynnydd ym mis Tachwedd, gyda'r nod o gwblhau'r llwybr o Ffair-fach Llandeilo i Lanarthne yn barod i'w ddefnyddio, gan roi cyfle i gymunedau lleol ac ymwelwyr grwydro ar hyd un o rannau mwyaf prydferth y dyffryn.

Gweld map o gynnydd y llwybr hyd yn hyn.

Bydd y llwybr yn cael ei gwblhau'n llawn yn y Flwyddyn Newydd ac mae'r cynnydd hyd yn hyn yn cynnwys cwblhau'r rhan gyntaf rhwng Abergwili a Nantgaredig a agorodd yn swyddogol ym mis Ebrill. Roedd gosod dwy bont newydd dros Afon Tywi ac Afon Cothi hefyd yn gam sylweddol ymlaen wrth greu'r llwybr blaenllaw hwn.

Mae Llwybr Dyffryn Tywi wedi'i gynllunio ar gyfer beicio, cerdded ac olwyno gyda'r nod o gael ei ddefnyddio gan bobl o bob oedran a gallu. Mae'r rhannau sydd newydd agor yn llawn tirweddau ysblennydd gyda cheirw gwyllt, rhodfeydd pren heddychlon, a thirnodau hanesyddol fel Castell Dryslwyn a Thŵr Paxton. Ar ôl ei gwblhau, bydd Llwybr Dyffryn Tywi yn cysylltu cymunedau ar hyd y dyffryn, gan ddarparu llwybr diogel a hygyrch ar gyfer teithio llesol a dathlu treftadaeth naturiol a diwylliannol Sir Gâr.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

“Mae Llwybr Dyffryn Tywi yn brosiect sy'n dwyn ynghyd teithio llesol, twristiaeth a chynaliadwyedd. Trwy gysylltu â Rheilffordd Calon Cymru sy'n stopio yn Ffairfach a Llandeilo ac annog cerdded, beicio ac olwyno, mae'n rhoi mwy o ddewis i bobl o ran sut maen nhw'n teithio ac ar yr un pryd yn cyflwyno harddwch y dyffryn i bawb ei fwynhau.”

Mae'r llwybr eisoes yn boblogaidd ac yn denu nifer cynyddol o ymwelwyr bob dydd, gan gynnwys grwpiau cerdded fel y Dinefwr Ramblers, sy'n mwynhau'r rhannau sydd newydd eu hagor yn rheolaidd.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

“Mae agor y rhannau newydd hyn yn gam cyffrous ymlaen i Lwybr Dyffryn Tywi. Mae'r prosiect hwn nid yn unig yn cysylltu cymunedau ond hefyd yn arddangos harddwch, hanes a diwylliant Dyffryn Tywi. Gyda dwy bont newydd bellach wedi'u gosod a mwy o rannau'n agor eleni, rydyn ni ar ein ffordd i greu llwybr cerdded, beicio ac olwyno o'r radd flaenaf i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.”

Bydd Llwybr Dyffryn Tywi hefyd yn chwarae rhan allweddol yn cefnogi busnesau lleol, denu ymwelwyr, a dathlu treftadaeth gyfoethog a harddwch y dyffryn. Drwy gyfuno manteision o ran iechyd, llesiant a thwristiaeth mae'r prosiect yn cryfhau Sir Gâr fel lle gwych i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.

Mae hyn yn rhan o fenter 'Gweithredu ar Newid Hinsawdd Sir Gâr' i annog pawb i helpu i leihau newid yn yr hinsawdd a gwarchod a gwella amgylchedd naturiol Sir Gâr.