Cabinet y Cyngor yn ystyried argymhellion ynghylch trwyddedu bridio cŵn
22 awr yn ôl

Mae Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymeradwyo argymhellion i'w hystyried ynghylch swyddogaeth trwyddedu bridio cŵn yn y sir yn dilyn adolygiad gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen.
Prif nodau'r adolygiad oedd archwilio sut mae'r tîm ar hyn o bryd yn cyflawni'r gwaith o reoleiddio trwyddedu bridio cŵn ac argymell meysydd i'w gwella. Arweiniodd hyn at nifer o argymhellion lleol a chenedlaethol.
Yr argymhellion lleol:
· Gwneud ymarfer adennill costau trylwyr ac adolygu'r gwaith o bennu ffioedd i sicrhau bod costau'n cael eu cofnodi'n gywir
· Gwella dealltwriaeth milfeddygon lleol o'r gofynion ar gyfer bridwyr trwyddedig drwy eu hannog i ymuno â'r Cynllun Prynu â Hyder
· Gwella gwybodaeth y cyhoedd drwy hyrwyddo gwaith y Tîm Lles Anifeiliaid ymhellach
· Archwilio opsiynau i gyflwyno system sgorio orfodol ar gyfer bridwyr trwyddedig i wella cysondeb
· Cynyddu adnoddau o fewn y Tîm Iechyd Anifeiliaid gan gynnwys ystyried cyflwyno cais twf
Mae'r argymhellion cenedlaethol a nodir yn gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried:
· Adolygu effeithiolrwydd y tîm Trwyddedu Anifeiliaid Cymru i sicrhau bod cyllid yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau
· Adolygu'r meini prawf ar gyfer pennu ffioedd ac ystyried cynnwys cyfran o gost y gwaith o orfodi'r cynllun trwyddedu
· Adolygu cwmpas y ddeddfwriaeth ac ailgychwyn yr adolygiad o amodau trwyddedu
· Ymchwilio i'r angen am grŵp cenedlaethol i gynorthwyo a chefnogi bridwyr cŵn, yn debyg i'r Undeb Amaethwyr
· Ystyried cyflwyno cronfa ddata microsglodyn ganoledig
· Rhoi pen ar fridio anghyfreithlon drwy adolygu'r trefniadau rhannu gwybodaeth cyfredol gan gynnwys Trwyddedu Anifeiliaid Cymru a chyflwyno gorfodaeth i gofrestru pob ci bach sy'n cael ei eni
· Gwella safonau'n gyson trwy ystyried gweithredu system sgorio genedlaethol ac archwilio'r defnydd o ddulliau gorfodi ychwanegol ar gyfer achosion o fân dorri rheolaeth fel Hysbysiadau Cosb Benodedig
Cafodd yr adolygiad, a ddatblygwyd trwy Grŵp Gorchwyl a Gorffen, ei gynnal trwy gyfres o gyfarfodydd ynghyd ag archwilio'r polisïau a gweithdrefnau presennol yn drylwyr, ymgynghori â rhanddeiliaid (gan gynnwys ymgynghoriad cyhoeddus) a chynnal ymweliadau safle â bridwyr trwyddedig.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Madge, Cadeirydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen:
“Diolch i'r bridwyr trwyddedig a groesawodd y grŵp i'w safleoedd, yn ogystal â'r aelodau hynny o'r cyhoedd a roddodd adborth gwerthfawr yn yr ymarfer ymgynghori. Roedd y cymorth hwn yn werthfawr i'n helpu i lunio'r argymhellion a nodir yn yr adroddiad, ac rydym yn gobeithio y byddant bellach yn cael eu datblygu i wella'r swyddogaeth trwyddedu bridio cŵn yn Sir Gaerfyrddin.”
Y Cynghorydd Aled Vaughan Owen said:
"Diolch i aelodau'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen am eu gwaith rhagorol wrth adolygu swyddogaeth trwyddedu bridio cŵn y Cyngor a gyflawnir gan y Tîm Lles Anifeiliaid. Mae'r adolygiad hwn wedi tynnu sylw at waith rhagorol a chanlyniadau cyson tîm bach sy'n chwarae rhan hanfodol wrth orfodi deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, gan amddiffyn lles anifeiliaid a bridwyr cyfreithlon.”