Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin yn cymeradwyo'r Strategaeth Mynediad i Farchogwyr gyntaf yng Nghymru

23 diwrnod yn ôl

Mae Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymeradwyo Strategaeth Mynediad i Farchogwyr gyntaf Cymru, sy'n nodi dyhead hirdymor i wella mynediad i farchogwyr ar draws y sir. Mae'r strategaeth hon yn adlewyrchu uchelgais y Cyngor i gefnogi'r gymuned farchogaeth, gwella cysylltedd gwledig a hybu mynediad cynhwysol i gefn gwlad.

Mae'r strategaeth yn darparu fframwaith i'w gyflawni dros y 10 mlynedd nesaf, ac mae Sir Gaerfyrddin yn ceisio datblygu rhwydwaith mwy hygyrch a chysylltiedig at ddefnydd marchogol. Mae'n amlinellu dull graddol, gan ddechrau drwy sefydlu Grŵp Defnyddwyr Ceffylau a Gweithlu Cynnal a Chadw gwirfoddol. Bydd y camau cynnar hyn yn helpu i lunio blaenoriaethau a chryfhau'r gwaith o gyflawni gwelliannau yn y dyfodol.

Wedi'i datblygu drwy ymgysylltu helaeth â busnesau marchogaeth, clybiau, unigolion a chynrychiolwyr etholedig, mae'r strategaeth yn ymateb i ddiddordeb cynyddol mewn marchogaeth ac yn cydnabod ei gwerth economaidd, cymdeithasol, a'i gwerth o ran llesiant.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

Mae'r strategaeth hon yn nodi cyfeiriad clir o ran sut y byddwn yn gweithio gyda'r gymuned farchogaeth i wella mynediad mewn ffordd realistig a chynaliadwy. Mae'n cydnabod pwysigrwydd ceffylau yn hunaniaeth wledig Sir Gaerfyrddin a'r manteision ehangach y mae marchogaeth yn eu rhoi i'n cymunedau.”