Apêl Teganau Nadolig 2025 Cyngor Sir Caerfyrddin wedi'i lansio

2 diwrnod yn ôl

Mae rhoddion o anrhegion newydd ac arian bellach yn cael eu derbyn ar gyfer apêl Teganau Nadolig 2025 Cyngor Sir Caerfyrddin.

Mae'r apêl yn helpu cannoedd o deuluoedd yn Sir Gaerfyrddin nad ydyn nhw'n gallu fforddio prynu teganau neu anrhegion i'w plant.
Mae rhestr llawn o'r mannau casglu i'w gweld ar dudalen Newyddion y Cyngor ar y wefan.

Cafodd dros 9,600 o anrhegion eu rhoi i 1,607 o blant ar ddiwedd apêl y llynedd, gan roi cymorth gwerthfawr i deuluoedd sy'n cael trafferthion ariannol.

Eleni, mae'r Apêl Teganau yn derbyn eitemau o gemau, eitemau celf a chrefft i bethau ymolchi ar gyfer pob oedran (18 mis hyd at bobl ifanc yn eu harddegau), mewn nifer o fannau casglu o amgylch y sir. Yn anffodus, ni all yr apêl dderbyn rhoddion ail-law, ond gallwch chi roi'r eitemau hyn i Eto, prosiect atgyweirio ac ailddefnyddio'r Cyngor, yn un o'r canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref.

Mae'r dasg o adnabod teuluoedd a phlant sydd angen cefnogaeth fwyaf gan yr Apêl Teganau yn cael ei gwneud gan ysgolion, canolfannau teuluoedd, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr ieuenctid. Bydd staff y Cyngor wedyn yn dosbarthu'r anrhegion cyn y Nadolig.

Wedi'i sefydlu yn 2011, mae'r apêl yn fenter leol sy'n darparu anrhegion Nadolig i deuluoedd mewn angen. Nid oes nifer o bobl yn gallu fforddio prynu anrhegion neu deganau i'w plant, ac efallai y byddan nhw'n troi at fenthycwyr didrwydded mewn anobaith. Mae'r Apêl Teganau Nadolig wedi sicrhau bod plant lleol, a fyddai wedi cael dim neu ychydig iawn fel arall, yn cael anrheg adeg y Nadolig.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Linda Davies Evans:


Er bod y Nadolig yn adeg arbennig iawn o'r flwyddyn, gall hefyd ddod â phwysau ariannol ychwanegol ar lawer o deuluoedd.

“Bob blwyddyn rydyn ni'n ddiolchgar iawn am haelioni unigolion, sefydliadau, ysgolion a busnesau, sydd wedi helpu cynifer o deuluoedd yn Sir Gaerfyrddin sy'n cael trafferth ariannol.

"Rydyn ni'n galw am eich cymorth unwaith eto eleni ac yn gofyn yn garedig, os ydych chi mewn sefyllfa i helpu, i chi roi arian er mwyn i ni brynu anrhegion neu brynu anrheg ychwanegol i'w roi i'n hapêl, i helpu i wneud y Nadolig yn amser arbennig i lawer o blant yn y sir."

Gallwch roi rhoddion ariannol ar-lein. Os hoffech roi arian parod neu siec, ffoniwch 07814 716380.

Dyma restr lawn o'r holl fannau casglu, bydd y rhestr hon yn cael ei diweddaru'n barhaus unwaith y bydd mannau pellach wedi'u cadarnhau:

  • Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Caerfyrddin
  • Neuadd y Sir, Caerfyrddin
  • Tesco Caerfyrddin
  • Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Llanelli
  • Tesco Llanelli
  • Morrisons, Caerfyrddin
  • Morrisons, Llanelli
  • Pentre Awel
  • Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Rhydaman
  • Canolfan Hamdden Dyffryn Aman
  • Hengwrt (Menter Dinefwr)
  • Canolfan Ieuenctid a Chymunedol Llanymddyfri
  • HWB Bach y Wlad (lleoliadau amrywiol, gallwch chi weld amserlen yma 
  • Neuadd Mynydd Y Garreg
  • Amgueddfa Abergwili
  • Canolfan Cymunedol Cwmaman
  • JJ Motors Cross Hands
  • Neuadd y Gwendraeth
  • Canolfan Hamdden Dyffryn Aman
  • Canolfan Hamdden Llanymddyfri
  • Canolfan Hamdden Caerfyrddin
  • Canolfan Hamdden Sanclêr
  • Canolfan Hamdden Castellnewydd Emlyn