Y Cyngor ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed ar dai fforddiadwy

2 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed o ddarparu dros 2,000 o dai fforddiadwy erbyn 2027 gyda dros 1,400 wedi'u darparu ers 2022, yn unol â'i ymrwymiad a nodwyd yn y Cynllun Cyflawni ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai.

Targed y Cyngor ar gyfer 2025/26 yw darparu 370 o dai ychwanegol gan ddefnyddio ystod o atebion tai fforddiadwy, gyda'r rhaglen adeiladu tai newydd yn chwarae rhan sylweddol i gynyddu'r nifer a hynny'n gyflym. Mae'r dulliau eraill a ddefnyddiwyd yn cynnwys cartrefi a brynwyd ar y farchnad agored, tai gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto, cartrefi a reolir drwy Asiantaeth Gosodiadau Syml y Cyngor, datblygiadau tai newydd trwy Gymdeithasau Tai a chyfraniadau cynllunio Adran 106 gan ddatblygwyr preifat.

Mae'r cartrefi newydd a ddarparwyd hyd yma yn cynnwys llety modern i bobl leol ledled y sir, gan gynnwys ym Mhorth Tywyn, Sanclêr, Llandybïe, Llanybydder, Rhydaman, Llanelli a Chaerfyrddin. Mae'r holl gartrefi a ddarperir yn diwallu anghenion tai lleol a lleihau digartrefedd, her sy'n wynebu pob Cyngor yng Nghymru. Mae dull y Cyngor o gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yn hanfodol i sicrhau bod pobl leol a theuluoedd yn gallu dod o hyd i gartref sy'n addas i'w hanghenion. Bydd hyn yn cefnogi teuluoedd lleol i aros yn yr ardal, gan gryfhau cymunedau lleol.

Mae gan y rhaglen adeiladu newydd  hon bum datblygiad ar waith (anghenion cyffredinol a llety arbenigol) yn Llanelli, Cydweli a Llansteffan. Disgwylir i ddatblygiadau pellach ddechrau yn gynnar yn 2026, gyda datblygiad deiliadaeth gymysg blaenllaw Gorllewin Caerfyrddin (mewn partneriaeth â Lovell Partnerships Ltd) yn dechrau yn haf 2026. Bydd y prosiectau hyn yn darparu 160 o gartrefi newydd o fewn y 36 mis nesaf.

Mae'r Cyngor hefyd yn gweithio tuag at ei dargedau carbon sero net gyda dim tanwydd ffosil yn cael ei ddefnyddio yn natblygiadau newydd y Cyngor. Yn lle hynny, mae cartrefi newydd yn cael eu hadeiladu gyda ffocws ar lefelau uchel o inswleiddio a systemau gwresogi trydan i ddarparu cynhesrwydd fforddiadwy trwy gydol y flwyddyn. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod gennym gartrefi o ansawdd uchel, ynni-effeithlon.

Mae buddsoddiad y Cyngor mewn tai a chymunedau hefyd yn cynnwys prosiect uchelgeisiol Trawsnewid Tyisha. Mae hyn yn cynnwys trawsnewid pum safle allweddol yn y ward i ddarparu tai a chyfleusterau cymunedol modern, o ansawdd, ac ynni-effeithlon. Mae'r broses i ddod o hyd i bartner datblygu i helpu i gyflawni'r prosiect hwn ar y gweill ar hyn o bryd. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gartrefi, y Cynghorydd Linda Davies Evans:

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i ddarparu cartrefi o safon i bobl leol yn ogystal â rhagori ar dargedau i ddarparu tai fforddiadwy ledled y sir.

Rydym yn disgwyl i Raglen Tai Fforddiadwy'r Cyngor barhau i ffynnu; gan ddarparu cartrefi addas i bobl sengl, cyplau, teuluoedd a phobl ag anghenion cymorth ychwanegol.”

Cefnogir hyn gan y rhaglen fuddsoddi yng Nghynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai. Mae bron i £50m o gyllid cyfalaf wedi'i ddyrannu i'r rhaglen tai fforddiadwy dros y tair blynedd nesaf.

Mae hyn yn rhan o fenter 'Gweithredu ar Newid Hinsawdd  Sir Gâr' i annog pawb i helpu i leihau newid yn yr hinsawdd a gwarchod a gwella amgylchedd naturiol Sir Gâr.