Treial gwefru cerbydau trydan Cyngor Sir Caerfyrddin yn paratoi'r ffordd ar gyfer trafnidiaeth wyrddach

7 diwrnod yn ôl

Mae treial Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer gwefru cerbydau trydan gan ddefnyddio sianeli gwli yn llwyddiant parhaus ledled y sir - gan gynnig ateb ymarferol a chynhwysol i breswylwyr heb barcio oddi ar y stryd ac yn helpu i baratoi'r ffordd ar gyfer dyfodol glanach a mwy cynaliadwy.

Wedi'i lansio ym mis Medi 2024 ac wedi'i ariannu gan Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn Llywodraeth Cymru drwy Drafnidiaeth Cymru, mae'r treial eisoes wedi cyflawni manteision diriaethol. Yn ystod Cam Un cafodd 15 o aelwydydd systemau gwli Kerbo Charge, gan ganiatáu i geblau gwefru cerbydau fynd ar draws palmentydd heb fod yn rhwystr. Mae'r arloesedd hwn yn dileu peryglon o ran baglu, yn cynnal hygyrchedd i gerddwyr, ac yn galluogi preswylwyr i wefru eu cerbydau gan ddefnyddio tariffau ynni cartref rhatach heb fod angen dreif.

Mae adborth gan gyfranogwyr wedi bod yn hynod gadarnhaol. Canmolodd preswylwyr symlrwydd, diogelwch a fforddiadwyedd y system, a dywedodd lawer fod ganddyn nhw ddealltwriaeth ddyfnach o berchnogaeth a chynnal a chadw cerbyd trydan. Yn hollbwysig, mae'r treial wedi helpu i oresgyn un o'r rhwystrau mwyaf i fabwysiadu cerbyd trydan: dull dibynadwy o wefru cerbydau trydan i'r rhai sydd heb fannau parcio preifat.

Gyda diddordeb yn cynyddu a mwy o breswylwyr bellach yn ystyried newid i gerbydau trydan, mae Cam Dau eisoes ar y gweill. Mae deuddeg system ychwanegol yn cael eu gosod, ac mae argaeledd cyfyngedig o hyd i aelwydydd cymwys ymuno â'r cynllun.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith, y Cynghorydd Edward Thomas:

Mae cefnogi'r trawsnewid i gerbydau trydan yn hanfodol ar gyfer cyflawni ein nodau amgylcheddol a gwella ansawdd aer ar draws Sir Gaerfyrddin. Mae'r treial hwn yn cynnig ateb ymarferol a chynhwysol i breswylwyr heb fannau parcio oddi ar y stryd, gan sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl yn y newid i drafnidiaeth wyrddach. Rydyn ni'n falch o fod yn arwain y ffordd gyda dulliau arloesol fel hyn, ac rwy'n annog preswylwyr cymwys i gymryd rhan yn y cam nesaf.”

Os ydych chi'n byw yn Sir Gaerfyrddin, yn meddu ar gerbyd trydan ac nac oes gennych chi fan parcio oddi ar y stryd, bydden ni'n dwlu clywed gennych. I fynegi eich diddordeb mewn ymuno â'r treial, cysylltwch â ni drwy e-bostio evci@sirgar.gov.uk