Gweinidog yn ymweld ag amgueddfa Sir Gâr yn dilyn buddsoddiad mawr gan y gronfa Y Pethau Pwysig

1 diwrnod yn ôl

Bu Rebecca Evans AS, y Gweinidog dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, yn ymweld ag Amgueddfa Sir Gâr heddiw (dydd Llun, 15 Medi) i weld canlyniadau prosiect gwella mawr a wnaed yn bosibl drwy gronfa Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru.

Cafodd Amgueddfa Sir Gâr £264,000 tuag at gyfanswm gwerth prosiect o £330,000, i gyflawni ystod o welliannau sy'n gwella profiad ymwelwyr yn sylweddol. Mae'r rhain yn cynnwys:

·       Mannau parcio hygyrch newydd yn agos at fynedfa'r amgueddfa

·       Cynllun maes parcio estynedig i gynyddu nifer y lleoedd parcio cyffredin

·       Gosod pwynt gwefru e-feiciau a cholofn i gloi beiciau'n ddiogel

·       Creu nodweddion dehongli newydd a gardd i'r amgueddfa

Yn ogystal, llwyddodd Cyngor Sir Caerfyrddin i sicrhau cyllid gan y gronfa Y Pethau Pwysig i uwchraddio'r cyfleusterau yn y Grîn, Llansteffan. Cafodd y cynllun hwn £224,000 gan Lywodraeth Cymru, a oedd wedi cyfrannu at gyfanswm gwerth y prosiect o £280,000.

Mae amgueddfeydd Sir Gâr wedi croesawu niferoedd da o ymwelwyr drwy gydol yr haf, ac roedd Amgueddfa Sir Gâr, Parc Howard, yr Amgueddfa Cyflymder, a  Chartref Dylan Thomas i gyd yn gyrchfannau poblogaidd yng nghasgliad CofGâr.

Wrth edrych i'r dyfodol, bydd Llwybr Dyffryn Tywi – sydd i fod i agor yn gyfan yn 2026 – yn cryfhau ymhellach yr hyn y mae Sir Gaerfyrddin yn ei gynnig i dwristiaid, gan gysylltu atyniadau allweddol ac annog mwy o bobl i grwydro'r ardal.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans AS:

Mae ein cronfa Y Pethau Pwysig yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau ledled Cymru. Mae'r gwelliannau hyn yn Amgueddfa Sir Gâr yn dangos hyn i'r dim, sef creu cyfleusterau gwell, gwella profiadau ymwelwyr wrth iddynt gyrraedd, a chefnogi twf economaidd lleol.
O barcio hygyrch i opsiynau cynaliadwy ar gyfer trafnidiaeth, fel y pwynt gwefru e-feiciau, mae gwelliannau o'r fath yn dangos sut y gall buddsoddiad ystyriol wella profiadau i bawb. Mae treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Sir Gâr yn gosod y sir fel cyrchfan hanfodol sy'n dathlu hanes gan gofleidio'r dyfodol."

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

“Rydym wrth ein bodd â'r gefnogaeth a gafwyd drwy gronfa Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru. Mae'r prosiectau hyn nid yn unig yn gwella cyfleusterau i drigolion ac ymwelwyr lleol, ond maent hefyd yn rhan o'n huchelgais ehangach i wneud Sir Gâr yn un o brif gyrchfannau Cymru o ran diwylliant a thwristiaeth.”