Gofalwr Maeth Sir Gâr yn gweithio'n llawn amser ac yn byw ar ei ben ei hun, ond maethu dal yn ffitio i'w fywyd
12 diwrnod yn ôl

Fel rhan o ymgyrch Maethu yn Llanelli Maethu Cymru Sir Gâr, maen nhw'n parhau i fynd i'r afael â chamsyniadau cyffredin sy'n aml yn atal darpar ofalwyr maeth rhag gwneud ymholiadau. Un pryder cyffredin sydd gan ddarpar ofalwyr maeth yw a yw eu ffordd o fyw yn ddigon hyblyg.
Mae llawer o bobl yn cymryd yn ganiataol bod yn rhaid iddyn nhw fod gartref yn llawn amser, cael llawer o amser sbâr, neu wneud newidiadau mawr i'w bywydau bob dydd er mwyn maethu. Ond dyw hynny ddim yn wir bob amser. Mae Maethu Cymru Sir Gâr yn cefnogi amrywiaeth eang o ofalwyr maeth. Mae rhai yn gweithio'n llawn amser, eraill yn gweithio'n rhan-amser, ac mae llawer yn cydbwyso cyfrifoldebau eraill ochr yn ochr â maethu.
Mae gwahanol fathau o faethu i gyd-fynd â gwahanol ffyrdd o fyw, o faethu tymor byr a thymor hir i fathau mwy arbenigol o faethu. Mae rhai gofalwyr maeth yn darparu seibiannau byr, tra bo eraill yn cefnogi plant a phobl ifanc yn fwy rheolaidd. Mae pob rôl yn helpu i sicrhau bod plant a phobl ifanc mewn gofal maeth yn Sir Gâr yn teimlo'n ddiogel a'u bod yn cael eu cefnogi.
P'un a yw rhywun yn gyflogedig neu beidio, yn sengl neu mewn perthynas, yr hyn sydd bwysicaf yw eich bod chi'n gallu darparu cartref diogel, sefydlog a gofalgar. Mae Maethu Cymru Sir Gâr yn gweithio'n agos gyda gofalwyr maeth newydd i'w helpu i gael hyd i'r math o faethu sydd fwyaf addas i'w ffordd o fyw.
Dywedodd Dafydd, Gofalwr Maeth Sir Gâr:
Rwy'n gweithio'n llawn amser ac yn byw ar fy mhen fy hun, mae maethu yn dal i ffitio i'm bywyd.”
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant a Theuluoedd:
Mae ein gofalwyr maeth yn gweithio'n agos gyda'n timau gwaith cymdeithasol i greu amgylcheddau cefnogol lle mae plant a phobl ifanc yn teimlo'n ddiogel. Does dim un math o ofalwr maeth, rydyn ni'n croesawu pobl o bob cefndir sydd am wneud gwahaniaeth yn Sir Gâr.”
Bydd cyfres o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal ym Llyfrgell Llanelli:
- Dydd Gwener, 3 Hydref 11am i 1pm
- Dydd Gwener, 17 Hydref 11am i 1pm
- Dydd Gwener, 31 Hydref 11am i 1pm
Mae unrhyw un sydd â diddordeb mewn maethu yn cael ei annog i fod yn bresennol i gwrdd â'r tîm, i ofyn cwestiynau, ac i ddarganfod sut y gallai maethu gyd-fynd â'u bywydau. I weld digwyddiadau ar ddyddiadau/amseroedd eraill neu mewn lleoliadau eraill ledled Sir Gâr, ewch i Digwyddiadau Maethu Cymru Sir Gâr.
I ddysgu mwy am faethu neu i ddechrau eich taith faethu, ewch i Maethu Cymru Sir Gâr.