Gofalwr Maeth Sir Gâr yn agor ei chartref a sylweddoli bod gyda hi fwy i'w gynnig nag a feddyliai
1 diwrnod yn ôl

Fel rhan o ymgyrch Maethu yn Llanelli Maethu Cymru Sir Gâr, maen nhw'n mynd i'r afael â chamsyniadau cyffredin sy'n aml yn atal darpar ofalwyr maeth rhag gwneud ymholiadau. Un pryder cyffredin sydd gan ddarpar ofalwyr maeth yw a yw eu cartref neu eu sgiliau yn addas.
Y gwir yw, mae llai yn eich rhwystro rhag maethu nag y mae llawer o bobl yn sylweddoli.
Does dim angen i chi fod yn berchen ar eich cartref; gallwch chi faethu os ydych chi'n rhentu, cyn belled â bod eich sefyllfa fyw yn sefydlog. Does dim angen i chi fod yn briod na chael eich plant eich hun. Gallwch chi faethu fel person sengl, fel rhan o gwpl, neu fel teulu. Yr hyn sy'n hanfodol yw bod gennych chi ystafell wely sbâr a'ch bod chi'n gallu darparu amgylchedd diogel, cefnogol a gofalgar i blentyn neu berson ifanc mewn angen.
Camsyniad arall yw bod angen cymwysterau penodol neu brofiad proffesiynol o weithio gyda phlant a/neu bobl ifanc. Er bod profiad o'r fath yn gallu helpu, does dim rhaid ei gael. Mae Maethu Cymru Sir Gâr yn cynnig hyfforddiant cynhwysfawr cyn ac ar ôl cymeradwyo.
Dywedodd Beca, Gofalwr Maeth Sir Gâr:
Agorais fy nghartref a sylweddoli bod gyda fi fwy i'w gynnig nag a feddylies i.”
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant a Theuluoedd:
Gall pawb gynnig rhywbeth pan mae'n dod i faethu. Mae ein holl blant a phobl ifanc yn wahanol, ac felly hefyd y gofalwyr maeth sydd eu hangen arnon ni i'w cefnogi. Rydyn ni'n gwerthfawrogi'r amrywiaeth o brofiadau bywyd a sgiliau mae ein gofalwyr maeth yn eu cynnig i'r rôl.”
Anogir unrhyw un sydd â diddordeb mewn maethu i fynychu digwyddiad wyneb yn wyneb i gwrdd â'r tîm, gofyn cwestiynau, a darganfod sut y gallai maethu fod yn rhan o’u bywydau.
I ddysgu mwy am faethu neu i ddechrau eich taith faethu, ewch i Maethu Cymru Sir Gâr.