Dweud eich dweud am ddyfodol trefi Sir Gaerfyrddin
9 awr yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar gynlluniau creu lleoedd ar gyfer ei dair prif dref sef Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli, ac mae'n gwahodd trigolion, busnesau ac ymwelwyr i fynd i ddigwyddiadau a rhannu eu barn. Mae'r ymgynghoriad hwn yn adeiladu ar y sylfeini a gafodd eu sefydlu mewn prif gynlluniau blaenorol.
Cafodd prif gynlluniau Rhydaman, Caerfyrddina Llanelli eu comisiynu mewn ymateb uniongyrchol i COVID-19. Roedd pob un yn adolygu'r gweithgarwch adfywio presennol ac yn gosod strategaethau i gefnogi adferiad a thwf tymor hir, gan ganolbwyntio ar gryfhau nodweddion unigryw, amrywio defnydd, gwella cysylltiadau, a chefnogi busnesau lleol. Mae gwaith sylweddol wedi'i wneud yn dilyn datblygu'r cynlluniau hyn ar draws y tair prif dref. Mae'r prif gynlluniau hyn yn rhoi cyd-destun ar gyfer y cynlluniau creu lleoedd newydd, gan sicrhau bod syniadau newydd yn adlewyrchu gwersi o'r gorffennol gan nodi camau gweithredu clir ar gyfer dyfodol pob tref.
Mae'r Cyngor yn cynnal sesiynau galw heibio wyneb yn wyneb ym mhob tref lle gall y gymuned ddysgu am y broses o greu lleoedd a gwneud cyfraniad gwerthfawr:
• Caerfyrddin – 22 Medi a 27 Hydref yn Neuadd Ddinesig San Pedr, Caerfyrddin
• Rhydaman – 23 Medi a 28 Hydref yn Neuadd y Pensiynwyr, Rhydaman
• Llanelli – 24 Medi a 29 Hydref yn 1 Rhodfa Stepney, Llanelli
Os na allwch ddod i unrhyw un o'r sesiynau galw heibio, byddwch dal yn gallu dweud eich dweud ar-lein drwy dudalen we y Cyngor ar gyfer yr ymgynghoriad o 22 Medi ymlaen.
Ewch ati i helpu i sicrhau bod Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli yn parhau i ddatblygu fel lleoedd bywiog a chroesawgar sydd â chysylltiadau da i bawb.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
"Bydd y cynlluniau creu lleoedd hyn dim ond yn llwyddo os ydynt yn cael eu llywio gan y cymunedau y mae'r cynlluniau hyn yn effeithio arnynt. P'un a ydych chi wedi bod yn rhan o'r gwaith hwn o'r blaen trwy'r prif gynlluniau adfer neu eich bod yn cyfrannu am y tro cyntaf, mae eich sylwadau'n hanfodol. Dewch draw i'r digwyddiadau neu rhannwch eich sylwadau ar-lein a helpwch ni i lunio canol trefi bywiog, cadarn sy'n adlewyrchu cryfderau unigryw Sir Gaerfyrddin.”
Bydd cyfranogwyr yn gallu trafod ystod eang o bynciau, er enghraifft:
• Creu canol trefi bywiog, hygyrch sydd â defnydd cymysg
• Gwella cysylltiadau cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus
• Cefnogi busnesau lleol a busnesau newydd
• Adfywio mannau cyhoeddus ac asedau diwylliannol
• Sicrhau cynaliadwyedd tymor hir a datblygiad dan arweiniad y gymuned
Mae rhagor o wybodaeth am ein canol trefi ar gael ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin Prif Drefi Sir Gaerfyrddin - Cyngor Sir Caerfyrddin