Drama newydd gan S4C a Channel 4, a gafodd ei ffilmio yn Sir Gâr, yn cael ei dangos cyn bo hir
33 diwrnod yn ôl

Bydd Y Golau: Dŵr, cyfres ddilynol hirddisgwyliedig Y Golau, y ddrama sydd wedi cael canmoliaeth a gafodd ei ffilmio yn Sir Gâr, yn cael ei dangos am y tro cyntaf ar S4C nos Sul 14 Medi am 9pm. Bydd y gyfres chwe rhan hefyd yn cael ei dangos ar Channel 4 yn y Flwyddyn Newydd.
Dechreuodd y gwaith ffilmio ar gyfer y gyfres ddechrau mis Hydref 2024 ac mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gweithio'n agos gyda'r sgowtiaid lleoliad a'r timau cynhyrchu i gefnogi'r gwaith ffilmio. Mae'r gymuned leol wedi elwa yn uniongyrchol ar y cyfleoedd economaidd sydd wedi cael eu creu, gan gynnwys ffioedd lleoliad, archebion llety a mwy o wariant mewn siopau a bwytai lleol.
Mae'r ddrama newydd, sy'n cael ei lleoli mewn pentref ffuglennol o'r enw Llanemlyn, yn edrych ar effaith hanesyddol cronfa ddŵr Nantwen a foddodd dir amaethyddol hynafol yn y 1960au gan symud teuluoedd drwy orchmynion prynu gorfodol. Mae'r stori hon yn adlewyrchu boddi dadleuol Cwm Tryweryn ac yn tynnu sylw at yr effeithiau hirdymor ar gymunedau lleol.
Yn y 1990au, cafodd cynigion i ehangu'r gronfa ddŵr wrthwynebiad cryf, gan rwygo teuluoedd a ffrindiau. Wrth i gynlluniau ehangu newydd ddod i'r amlwg, mae trydedd genhedlaeth bellach yn gorfod wynebu materion nad ydyn nhw wedi cael eu datrys yn y gorffennol.
Mae Y Golau: Dŵr (Still Waters) yn cynnwys cast ardderchog, gan gynnwys Sian Reese-Williams, Mark Lewis-Jones, a Robert Glenister.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Rydyn ni wrth ein bodd bod yr amser wedi dod i ni weld Y Golau: Dŵr ar y sgrin. Mae'r gyfres hon nid yn unig yn tynnu sylw at dirweddau trawiadol Sir Gâr ond roedd hefyd yn cynnig cyfle gwych i'n heconomi leol wrth i'r criw ffilmio yma. Rydyn ni'n gobeithio y bydd y gyfres yn cael adborth cadarnhaol ac y gallwn ni groesawu'r tîm cynhyrchu yn ôl i Sir Gâr ar gyfer trydedd gyfres.”
Cafodd cyfres gyntaf Y Golau ei dangos am y tro cyntaf ar S4C ym mis Mai 2022 gan ddenu llawer o wylwyr. Yn ddiweddarach cafodd fersiwn Saesneg ei dangos ar Channel 4, oedd yn cynnwys Joanna Scanlan, Alexandra Roach, ac Iwan Rheon.