Cau Heol Dŵr a Heol y Gwyddau ar gyfer gwaith nwy hanfodol

1 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn hysbysu preswylwyr a modurwyr am waith seilwaith nwy hanfodol fydd yn digwydd yn ardal Heol y Gwyddau, Caerfyrddin.

Bydd Wales & West Utilities Ltd yn dechrau cam nesaf eu gwaith uwchraddio ar y biblinell nwy yn yr ardal ddydd Llun, 8 Medi, a disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn canol mis Tachwedd. Mae'r gwaith hwn yn hanfodol i sicrhau cyflenwad parhaus diogel a dibynadwy o nwy i gartrefi a busnesau yn y dref am flynyddoedd lawer i ddod.

Mae WWU wedi gweithio'n agos gyda Chyngor Sir Caerfyrddin i gydgysylltu rheoli traffig a lleihau'r tarfu ar breswylwyr lleol a defnyddwyr y ffyrdd.

Er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflawni'r prosiect:

  • Bydd Heol Dŵr (Gogledd) ar gau i'r holl draffig o 6 Hydref am 19 diwrnod.
  • Bydd cyfyngiad 'Dim Troi i'r Chwith' ar waith o Heoly  Gwyddau i Heol Parcmaen rhwng 15 a 26 Medi. Gall preswylwyr lleol gyrraedd Heol Parcmaen drwy ddod o'r dwyrain a throi i'r dde.
  • Bydd gwaith ar gyffordd Heol y Gwyddau a Heol Dewi Sant hefyd yn digwydd rhwng 8 a 19 Medi, er nad oes unrhyw gyfyngiadau wedi'u cynllunio ar y gyffordd hon.

Mae trefniadau wedi'u gwneud gyda gweithredwyr bysiau lleol i ail-gyfeirio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a chludiant ysgol yn ôl yr angen yn ystod cyfnod yr aflonyddwch.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith, y Cynghorydd Edward Thomas:

Rydyn ni'n cydnabod y gall uwchraddio seilwaith fel hyn achosi anghyfleustra yn y tymor byr, ond maen nhw'n gwbl hanfodol i sicrhau diogelwch a dibynadwyedd hirdymor ein rhwydwaith nwy. 
Rydyn ni'n diolch i'r cyhoedd am eu hamynedd a'u dealltwriaeth wrth i'r prosiect pwysig hwn gael ei gyflawni, a byddwn ni'n parhau i fonitro'r sefyllfa i sicrhau cyn lleied o aflonyddwch â phosibl.”

Wrth siarad ar ran Wales & West Utilities, dywedodd Rheolwr y Prosiect, Adam Smith:

Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda'r Cyngor i gynllunio'r gwaith hanfodol hwn, a bydd arwyddion yn cael eu defnyddio i rybuddio modurwyr am reoli traffig.
Rydyn ni'n gwybod nad yw gweithio mewn ardaloedd fel hyn yn ddelfrydol, ond mae'n hanfodol sicrhau ein bod yn cadw'r nwy yn llifo i gartrefi a busnesau yn yr ardal, ac i wneud yn siŵr bod y rhwydwaith nwy yn addas ar gyfer y dyfodol. Bydd gennym dîm o beirianwyr nwy ar y safle trwy gydol y prosiect i wneud yn siŵr bod ein gwaith yn cael ei gwblhau mor ddiogel a chyn gynted â phosibl gan achosi cyn lleied o aflonyddwch â phosibl.
Mae ein Tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid yn barod i dderbyn eich galwad os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein gwaith. Gallwch chi gysylltu â nhw drwy ffonio 0800 912 2999".

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn diolch i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr am eu hamynedd a'u cydweithrediad yn ystod y gwaith pwysig hwn.