Casgliadau ailgylchu
10 diwrnod yn ôl

Mae'n bosib fod rhai trigolion wedi derbyn nodyn atgoffa anghywir am gasglu gwastraff drwy e-bost neu neges destun heno yn dweud bod eu gwastraff i'w gasglu yfory (dydd Llun).
Os nad yw eich gwastraff fel arfer yn cael ei gasglu ddydd Llun, yna mae hyn wedi'i anfon ar gam. Peidiwch â chyflwyno eich gwastraff wrth ymyl y ffordd i'w gasglu yfory.
Os yw eich diwrnod casglu fel arfer yn ddydd Llun, yna cyflwynwch eich gwastraff i'w gasglu fel arfer.
Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn fod wedi'i achosi.