Canolfan Pentre Awel i agor ei drysau i'r cyhoedd
4 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Canolfan Pentre Awel, y datblygiad nodedig yn Llanelli, yn agor ei drysau i'r cyhoedd ar 15 Hydref 2025.
Y datblygiad hwn yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru, gan ddod â'r sector preifat, cyhoeddus a'r trydydd sector at ei gilydd o dan yr un to, gyda'r nod o wella iechyd a llesiant, rhoi hwb i'r economi a chefnogi pobl ar bob cam o fywyd.
Er y bydd drysau Canolfan Pentre Awel (Parth 1 gynt) yn agor i'r cyhoedd o 4pm Dydd Mercher 15 Hydref, bydd digwyddiad swyddogol i agor Canolfan Pentre Awel yn cael ei gynnal tua diwedd y flwyddyn, gyda chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, rhanddeiliaid a'r gymuned ehangach
Bydd Canolfan Pentre Awel yn cynnig y cyfleusterau canlynol i ymwelwyr eu mwynhau:
- Pwll 25m ag 8 lôn, pwll bach a phwll hydrotherapi
- Campfa sydd â'r dechnoleg glyfar ddiweddaraf ac offer o'r radd flaenaf, sy'n cynnwys golygfeydd ar draws Llynnoedd Delta a'r awyr agored.
- Stiwdio chwilbedlo bwrpasol gyda beiciau Keiser
- Gofod helaeth ar gyfer dawns a ffitrwydd grŵp
- Neuadd chwaraeon 8 cwrt (sy'n cyfateb i 2 gwrt pêl-rwyd maint llawn)
- Ystafelloedd cynadledda ac ystafelloedd cyfarfod modern
- Mannau cymunedol croesawgar, mannau gwyrdd hygyrch a llwybrau arfordirol godidog a llwybrau beicio.
- Caffi ar y safle sy'n cynnig prydau twym, byrbrydau, opsiynau 'prynu a mynd', ac amrywiaeth o ddiodydd twym ac oer
- Gwefru Cerbydau Trydan
Yn lansio cyn hir:
- Gofal iechyd cymunedol a mannau ymchwil
- Rhaglenni addysgu a hyfforddi arloesol
- Gofod i feithrin busnesau ac arloesi gan ddarparu swyddfeydd ac ardaloedd cydweithio i fusnesau o bob maint.
Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:
Rydym yn falch iawn o weld Canolfan Pentre Awel yn cyrraedd y cam hwn. Mae'n brosiect a fu ar y gweill am flynyddoedd a bydd hon yn foment drawsnewidiol nid yn unig i Lanelli, ond i Sir Gaerfyrddin a'r rhanbarth ehangach. Dyma enghraifft wirioneddol o gydweithrediad y sector cyhoeddus a'r sector preifat yn darparu buddion hirdymor i'n cymunedau. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r prif gontractwr Bouygues UK, y gadwyn gyflenwi leol a chenedlaethol a phawb fu'n cymryd rhan am eu gwaith caled yn ystod adeiladu Canolfan Pentre Awel.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Dirprwy Arweinydd y Cyngor:
Mae'r prosiect hwn wedi bod yn fenter fawr, a nawr mae gweledigaeth Canolfan Pentre Awel yn realiti a gall pobl leol ei mwynhau. Mae'r prosiect hwn wedi bod yn ymwneud â chreu manteision go iawn, parhaol i bobl yn ein cymunedau, i fusnesau lleol, i bobl ifanc sy'n dechrau eu gyrfaoedd, ac i genedlaethau'r dyfodol. Mae Canolfan Pentre Awel yn neges atgoffa bwerus o'r hyn y gallwn ei gyflawni pan fydd y sector preifat a'r sector cyhoeddus yn cydweithio gyda'r un nod.
Dywedodd Peter Sharpe – Cyfarwyddwr Prosiect Bouygues UK:
Mae trosglwyddo Parth 1 Canolfan Pentre Awel yn garreg filltir bwysig i bawb sy'n ymwneud â'r prosiect trawsnewidiol hwn. Rwy'n falch iawn o fy nhîm sydd wedi darparu cyfleuster a fydd yn cael effaith barhaol ar y gymuned leol, gan gefnogi iechyd, llesiant, dysgu a thwf economaidd yn Llanelli a thu hwnt.
Mae wedi bod yn fraint gweithio ochr yn ochr â Chyngor Sir Caerfyrddin a'n holl bartneriaid i wireddu'r weledigaeth uchelgeisiol hon.
Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo ar barthau'r dyfodol a fydd yn cynnwys cartref nyrsio, gofal ychwanegol, byw â chymorth a gwesty.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, ewch i wefan newydd Pentre Awel: Pentre Awel
I gael gwybodaeth am eich holl anghenion hamdden, cysylltwch â Chwaraeon a Hamdden Actif neu ewch i'r wefan.
Mae Canolfan Pentre Awel wedi cael ei hariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe (£40 miliwn) wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ac yn un o'r cynlluniau adfywio mwyaf yn ne-orllewin Cymru
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn asesu pa mor ymarferol yw addasu safle presennol Canolfan Hamdden Llanelli ar gyfer adeilad newydd i Ysgol Gymraeg Dewi Sant. Mae disgwyl canlyniadau'r adroddiad dichonoldeb hwn tua diwedd y flwyddyn eleni.