Aelod o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin wedi bod i’r Senedd wrth i Bwyllgor Dethol Ieuenctid gychwyn ymchwiliad

8 diwrnod yn ôl

Gwnaeth Evie Somers, aelod o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, deithio i Lundain i fynd i gyfarfod wyneb yn wyneb cyntaf Pwyllgor Dethol Ieuenctid y DU, a gafodd ei gynnal yn Nau Dŷ'r Senedd ddydd Iau, 18 Medi. 

Mae'r digwyddiad mawreddog hwn yn nodi lansiad swyddogol proses ymchwilio'r Pwyllgor ar gyfer tymor 2025/26. Mae Evie, sy'n cynrychioli Sir Gaerfyrddin a Chymru, yn un o ddim ond 12 o bobl ifanc ledled y DU sydd wedi'u dethol i fod ar y Pwyllgor Dethol Ieuenctid dylanwadol.

Mae'r Pwyllgor Dethol Ieuenctid yn fenter seneddol unigryw, sy'n cael ei rhoi ar waith gan yr Asiantaeth Genedlaethol Ieuenctid a'i chefnogi gan Dŷ'r Cyffredin. Mae'n adlewyrchu gwaith Pwyllgorau Dethol Tŷ'r Cyffredin, gan roi cyfle i bobl ifanc 14-19 oed graffu ar faterion sy'n bwysig i'w cenhedlaeth nhw, trafod y materion hyn ac adrodd arnyn nhw.

Yn ystod y misoedd nesaf, bydd Evie yn gweithio gyda chyd-aelodau'r pwyllgor i gasglu tystiolaeth gan arbenigwyr, holi rhanddeiliaid allweddol a chyfrannu at adroddiad ffurfiol sy'n cynnwys argymhellion ar gyfer y llywodraeth.

Dywedodd Evie Somers: 

Mae mwy na 500,000 o bobl ifanc ar draws y genedl hon - ac mae cael eu hymddiriedaeth nhw ynof fi i gynrychioli eu barn yn effeithiol ar y Pwyllgor Dethol Ieuenctid, wrth gwrs, yn anrhydedd. Cyflawni'r swydd hon fydd fy rôl fwyaf gweithgar fel cynrychiolydd hyd yma - rwy'n bwriadu cymryd gofal a chyfrifoldeb mawr wrth siarad ac eirioli ar ran pobl ifanc Cymru.”

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg a'r Gymraeg:

Rydyn ni'n hynod falch bod Evie wedi cael ei phenodi i'r Pwyllgor Dethol Ieuenctid. Mae ei hymroddiad i gynrychioli lleisiau pobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin a ledled Cymru yn wirioneddol ganmoladwy. Mae'n hanfodol bod ein pobl ifanc yn cael cyfleoedd gwirioneddol i lunio'r dyfodol, a bydd rôl Evie yn helpu i sicrhau bod safbwyntiau Cymreig yn cael eu clywed a hynny fel rhan ganolog o broses gwneud penderfyniadau y DU.” 

Mae'r Pwyllgor Dethol Ieuenctid wedi ymchwilio’n flaenorol i bynciau fel trais gan bobl ifanc, cyfryngau cymdeithasol, pwysau addysg a chostau byw. Mae'n darparu platfform pwerus i bobl ifanc ddylanwadu ar bolisi a phenderfyniadau'r llywodraeth drwy ymchwilio strwythuredig a chasglu tystiolaeth.