Y Cyngor yn rhybuddio rhag teganau ffug oherwydd y risgiau diogelwch i blant
2 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn annog rhieni, gofalwyr a siopau i fod yn ymwybodol o bryder cynyddol am ddiogelwch teganau 'Labubu' ffug.
Bydd tîm Safonau Masnach y Cyngor yn ymweld â siopau ledled Sir Gaerfyrddin lle mae amheuaeth eu bod nhw'n gwerthu'r eitemau hyn. Gallai unrhyw un sy'n gwerthu eitemau ffug ac anniogel wynebu camau gorfodi a gallai'r eitemau gael eu hatafaelu.
Mae'r rhybudd hwn yn cael ei roi ar ôl i dimau Safonau Masnach ledled y DU ddarganfod sawl fersiwn ffug peryglus o'r teganau poblogaidd ar werth.
Mae'r teganau ffug hyn yn peri risg ddifrifol i blant oherwydd diffyg profion diogelwch priodol, safonau gweithgynhyrchu gwael gan arwain at rannau bach sy'n gallu dod yn rhydd ac achosi tagu, a deunyddiau sy’n cynnwys cemegau wedi'u gwahardd.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:
Rhaid blaenoriaethu diogelu iechyd a llesiant ein plant bob amser. Mae'r teganau ffug hyn nid yn unig yn methu safonau diogelwch pwysig y DU ond gallan nhw hefyd gynnwys cemegau niweidiol sy'n peri risg ddifrifol.
Rwy'n annog rhieni, gwarcheidwaid a siopau i fod yn wyliadwrus a rhoi gwybod am unrhyw eitemau amheus."
Gallwch chi roi gwybod am eitemau neu werthwyr amheus i Cyngor ar Bopeth ar-lein neu dros y ffôn - 0808 223 1133