Newidiadau i Gasgliadau Gwastraff dros gyfnod Gŵyl Banc yr Haf

3 diwrnod yn ôl

Bydd yna newidiadau i gasgliadau biniau dros gyfnod Gŵyl Banc yr Haf eleni.

Bydd yr holl gasgliadau'n cael eu gohirio tan y diwrnod canlynol:

Diwrnod casglu arferol

Diwrnod casglu diwygiedig

Dydd Llun, 25 Awst

Dydd Mawrth, 26 Awst

Dydd Mawrth, 26 Awst

Dydd Mercher, 27 Awst

Dydd Mercher, 27 Awst

Dydd Iau, 28 Awst

Dydd Iau, 28 Awst

Dydd Gwener, 29 Awst

Dydd Gwener, 29 Awst

Dydd Sadwrn, 30 Awst

 

Rhowch eich sbwriel mas erbyn 6am ar y diwrnod casglu diwygiedig. Bydd casgliadau gwastraff hylendid a gwastraff gardd hefyd yn dilyn yr amserlen ddiwygiedig. Ailgylchwch gymaint â phosibl a chofiwch dim mwy na thri bag du.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Gwastraff, Trafnidiaeth a Seilwaith:

Mae ein timau yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth casglu gwastraff dibynadwy i breswylwyr dros Ŵyl Banc yr Haf. Er ein bod yn cydnabod y gall cyfnodau gwyliau ddod â phwysau ychwanegol, rydym wedi cymryd camau i gefnogi ein criwiau, gan gynnwys dod â staff ychwanegol i mewn. Gan adeiladu ar lwyddiannau diweddar, rydym yn parhau i gymryd camau i helpu i gynnal y casgliadau mor ddidrafferth â phosibl.
Hoffwn ddiolch i bawb am eu gwaith caled a'u hymrwymiad a diolch hefyd i breswylwyr am eu hamynedd a'u cydweithrediad parhaus yn ystod y cyfnod hwn.”

Er ein bod yn anelu at gasglu yn ôl yr amserlen, efallai y bydd yna darfu lleol a allai newid ar fyr rybudd. Er mwyn helpu i osgoi unrhyw darfu ar gasgliadau a sicrhau diogelwch pawb yn ein cymuned, gofynnwn i chi barcio'n gyfrifol i sicrhau bod cerbydau casglu gwastraff yn gallu mynd heibio'n ddiogel.

Cadwch lygad ar ein tudalen tarfu ar gasgliadau gwastraff am unrhyw ddiweddariadau.

Bydd y canolfannau ailgylchu yn Nhrostre, Nantycaws, Wernddu a Hendy-gwyn ar Daf ar agor fel arfer dros benwythnos Gŵyl y Banc. Gallwch weld eu horiau agor yma.

Diolch yn fawr am ailgylchu.