Myfyrwyr Safon Uwch ac UG Sir Gaerfyrddin yn dathlu eu canlyniadau

233 diwrnod yn ôl

Mae myfyrwyr Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol ar draws Sir Gâr wedi casglu eu canlyniadau heddiw, dydd Iau 14 Awst 2025, gyda chyfanswm o 94.9% o fyfyrwyr yn ennill graddau A*-E ar gyfer Safon Uwch ac 87.1% yn ennill graddau A -E ar gyfer Uwch Gyfrannol.

Trwy arholiadau ac asesiadau, sy'n berthnasol i wahanol gyrsiau, mae cyfanswm o 23.6% o fyfyrwyr Safon Uwch ledled Sir Gaerfyrddin wedi cael gradd A neu A* eleni; ac mae 18.7%  o fyfyrwyr UG Sir Gaerfyrddin wedi cael graddau A.

Wrth dderbyn ei chanlyniadau heddiw, dywedodd Shari o Ysgol Dyffryn Aman:

Ar gyfer Safon Uwch cefais dair gradd A*, un A ac un B. Rwy'n hapus iawn gyda'r rhain a'r flwyddyn nesaf rwy'n edrych ymlaen at astudio Hanes ym Mhrifysgol Rhydychen”. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, y Cynghorydd Glynog Davies:

Llongyfarchiadau i'n pobl ifanc ledled Sir Gaerfyrddin sydd wedi cael eu canlyniadau Safon Uwch ac UG heddiw. 
Mae'r canlyniadau hyn yn dyst i'ch gwaith caled a'ch ymrwymiad. Hoffwn ddiolch hefyd i athrawon, staff cymorth, teuluoedd a ffrindiau ein myfyrwyr Safon Uwch am y gefnogaeth maen nhw wedi'i rhoi.
Rwyf am ddymuno pob dymuniad da i chi yn y dyfodol.”

Mewn datganiad ar y cyd, ychwanegodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin, Wendy Walters a'r Cyfarwyddwr Addysg, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, Owain Lloyd:

Llongyfarchiadau i fyfyrwyr Safon Uwch ac UG Sir Gaerfyrddin ar eu canlyniadau heddiw. 
Ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin, hoffem ddiolch i chi am eich ymdrechion arbennig ynghyd â diolch i'ch rhwydweithiau cymorth gan gynnwys athrawon, staff cymorth, teuluoedd a ffrindiau am eu rôl yn eich llwyddiant. Diolch yn fawr.”

Cliciwch yma i weld myfyrwyr o Ysgol Dyffryn Aman yn cael eu canlyniadau.