Maethu Cymru Sir Gâr yn lansio ymgyrch newydd Maethu yn Llanelli

6 diwrnod yn ôl

Mae Maethu Cymru Sir Gâr yn falch o gyhoeddi lansiad ymgyrch newydd, Maethu yn Llanelli, sydd â'r neges graidd:

Gofalwyr maeth lleol i blant lleol. Dechreuwch eich siwrnai.

Mae Maethu yn Llanelli yn ymgyrch bwrpasol mewn ymateb i'r niferoedd cynyddol o blant a phobl ifanc mewn gofal maeth yn Sir Gâr sy'n dod o Lanelli.

Mae data diweddar yn dangos bod 76% o blant a phobl ifanc mewn gofal maeth yn Sir Gâr ar hyn o bryd yn dod o Lanelli (ffigurau 2023-2024). Ond mae llawer o blant a phobl ifanc yn cael eu lleoli y tu allan i'w tref enedigol oherwydd prinder gofalwyr maeth lleol.

Nod yr ymgyrch yw cynyddu nifer y gofalwyr maeth lleol a gaiff eu recriwtio yn Llanelli a gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc sy'n agored i niwed drwy sicrhau eu bod yn cynnal cysylltiadau cryf â'u cymuned leol.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant a Theuluoedd:

“Mae'r ymgyrch hon yn ymwneud â rhoi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i'n plant a'n pobl ifanc. Trwy recriwtio mwy o ofalwyr maeth lleol yn Llanelli, rydym yn helpu plant a phobl ifanc i aros yn agos at eu hysgolion, eu ffrindiau a'u teuluoedd, ac yn cefnogi ein nodau gofal cymdeithasol ehangach.”

Bydd yr ymgyrch yn mynd i'r afael â chamsyniadau cyffredin sy'n aml yn atal gofalwyr maeth posibl rhag gwneud ymholiadau. Er enghraifft, mae llawer o unigolion yn credu nad oes ganddyn nhw'r sgiliau cywir, nad yw eu ffordd o fyw yn ddigon hyblyg, neu na fydden nhw'n cael digon o gymorth i faethu.

Mae Maethu Cymru Sir Gâr am herio'r camsyniadau hynny, gan roi sicrwydd i ddarpar ofalwyr maeth fod cymorth a hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu ac y gall pobl o bob cefndir faethu.

Er mai Llanelli yw prif ffocws yr ymgyrch, mae'r angen brys am ofalwyr maeth ledled Sir Gâr yn parhau, ac mae ymdrechion recriwtio yn parhau ledled y sir.

Anogir unrhyw un sydd â diddordeb mewn maethu i fynychu digwyddiad wyneb yn wyneb i gwrdd â'r tîm, gofyn cwestiynau, a darganfod sut y gallai maethu fod yn rhan o’u bywydau. 

Mae pecyn o adnoddau ar gyfer y cyfryngau ar gael i sefydliadau a hoffai gefnogi'r ymgyrch. I gael mynediad at y pecyn, cysylltwch â: marchnatacyfryngau@sirgar.gov.uk.

I ddysgu rhagor am faethu neu i ddechrau eich siwrnai, ewch i Maethu Cymru Sir Gâr.