Enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Actif Sir Gâr
206 diwrnod yn ôl
Mae enwebiadau bellach ar agor ar gyfer gwobrau mawreddog Chwaraeon Actif Sir Gâr 2025. Bellach yn ei 27ain flwyddyn, mae'r gwobrau'n dathlu'r gorau o chwaraeon yn y sir - gan gydnabod athletwyr, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr, clybiau a thimau y mae eu hymroddiad a'u cyflawniadau yn ysbrydoli ein cymunedau.
Wedi'u trefnu gan Dîm Chwaraeon a Hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin, mae Gwobrau Chwaraeon Actif Sir Gâr yn tynnu sylw at yr arwyr chwaraeon lleol a gwaith amhrisiadwy'r rhai sy'n cadw chwaraeon i ffynnu ar bob lefel.
Mae'r 13 categori ar gyfer y gwobrau eleni yn cynnwys:
- Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn
- Chwaraewr a Chwaraewraig y Flwyddyn
- Chwaraewr Anabl y Flwyddyn
- Hyfforddwr Chwaraeon Cymunedol a Hyfforddwr Chwaraeon o Safon Uchel y Flwyddyn
- Gwirfoddolwr a Pherson Ifanc Ysbrydoledig y Flwyddyn
- Tîm Chwaraeon, Tîm Ifanc a Chlwb Chwaraeon y Flwyddyn
- Gwobr Gwasanaeth Rhagorol i Chwaraeon
- Oriel yr Anfarwolion
Gellir enwebu unrhyw un a anwyd yn Sir Gâr, sy'n byw yn y sir ar hyn o bryd, neu sy'n cynrychioli clwb neu ysgol yn Sir Gâr. Mae athletwyr, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr hefyd yn gymwys i gael eu henwebu am sawl gwobr, er bod angen ffurflen enwebu ar wahân ar gyfer pob categori.
Mae enwebiadau'n agor ar 1 Medi ac yn cau ar 26 Hydref. Gellir enwebu athletwyr, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr am sawl gwobr, ond mae angen ffurflen enwebu ar wahân ar gyfer pob categori.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni arbennig yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli ym mis Chwefror 2026.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth
“Gwobrau Chwaraeon Actif Sir Gâr yw ein ffordd ni o ddathlu talent, ymroddiad a’r angerdd rhyfeddol a geir dros chwaraeon yn ein sir. O wirfoddolwyr ar lawr gwlad i berfformwyr elitaidd, mae'r gwobrau hyn yn anrhydeddu'r bobl sy'n ysbrydoli eraill ac yn gwneud chwaraeon yn bosibl yn Sir Gâr. Rwy'n annog pawb i fanteisio ar y cyfle hwn i enwebu'r rheini sy'n haeddu cael eu cydnabod."
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb mewn noddi categori i gysylltu â ActifCommunities@sirgar.gov.uk.
I gael rhagor o wybodaeth neu i gyflwyno enwebiad, ewch i wefan Gwobrau Chwaraeon Actif Sir Gâr.
