Dysgwyr TGAU Sir Gaerfyrddin yn dathlu eu canlyniadau
7 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn llongyfarch yr holl fyfyrwyr yn y sir sy'n derbyn eu canlyniadau TGAU heddiw, dydd Iau 21 Awst 2025.
Yn Sir Gaerfyrddin, dyfarnwyd gradd A*-C i 66.9% o'r holl geisiadau a dyfarnwyd gradd A*-A i 20.2% o'r ceisiadau.
Wrth dderbyn ei chanlyniadau heddiw, dywedodd Manon o Ysgol Maes y Gwendraeth:
Ges i wyth A*, dau A, B a rhagoriaeth. Rwy’n hapus iawn gyda fy nghanlyniadau a rwy’n bwriadu dychwelyd i Ysgol Maes y Gwendraeth i astudio Saesneg, Cymraeg, Sbaeneg a Cerddoriaeth."
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg:
Heddiw rydym yn dathlu cyflawniadau gwych ein pobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin sy'n derbyn eu canlyniadau TGAU. Diolch i chi i gyd am eich gwaith caled a'ch ymroddiad wrth baratoi ar gyfer eich arholiadau TGAU.
Mae'r canlyniadau hyn hefyd yn adlewyrchu cefnogaeth ac ymrwymiad ein hathrawon a'n staff cymorth, a theuluoedd a ffrindiau ein pobl ifanc. Llongyfarchiadau i chi i gyd.”
Mewn datganiad ar y cyd, ychwanegodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin, Wendy Walters, a'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant, Owain Lloyd:
Llongyfarchiadau i'n dysgwyr ar eu cyflawniadau arbennig. Mae eich gwaith caled a'ch ymroddiad yn cael eu cydnabod yn y canlyniadau hyn ac rydym yn falch iawn ohonoch chi i gyd.
Hoffem ddiolch hefyd i'w hathrawon, staff cymorth, teuluoedd a ffrindiau am eu gwaith caled dros y ddwy flynedd diwethaf. Diolch yn fawr i chi gyd.”
Cliciwch yma i wylio fideo o ddisgyblion o Ysgol Maes Y Gwendraeth yn derbyn eu canlyniadau.