Dyma'ch cyfle i gael dweud eich dweud am newidiadau arfaethedig i'r ystod oedran mewn pum ysgol gynradd yn Sir Gaerfyrddin

3 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymgynghori ynghylch cynigion i ehangu mynediad at addysg blynyddoedd cynnar drwy newid yr ystod oedran o 4-11 i 3-11 oed mewn pum ysgol gynradd ledled y sir.

Pe byddai hyn yn cael ei gymeradwyo, byddai'r newidiadau'n caniatáu i blant o dair oed gael mynediad at addysg feithrin ran-amser wedi'i hariannu, a hynny mewn ardaloedd lle mae'r ddarpariaeth bresennol yn gyfyngedig yn Ysgol y Ddwylan, Ysgol Cwrt Henri, Ysgol Gymraeg y Tymbl, Ysgol Llanybydder ac Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Talacharn.

Er mwyn ateb y galw am addysg feithrin ran-amser a gofal plant mewn ardaloedd lle mae darpariaeth nas cynhelir yn gyfyngedig, mae'r Cyngor yn cynnig ailddynodi'r ysgolion hyn fel ysgolion 3-11. Byddai hyn yn caniatáu iddyn nhw gynnig o leiaf 10 awr yr wythnos o addysg blynyddoedd cynnar ran-amser anstatudol i helpu i fynd i'r afael ag unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth a sicrhau mynediad tecach at addysg blynyddoedd cynnar ledled y sir. 

Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal rhwng 4 Medi a 16 Hydref 2025 ac mae'n rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i foderneiddio'r ddarpariaeth addysg ledled Sir Gaerfyrddin. Rhaid cyflwyno'r holl ymatebion erbyn 16 Hydref 2025.

Mae rhieni, gofalwyr, staff, Llywodraethwyr, aelodau o gymuned ehangach yr ysgol a rhanddeiliaid eraill yn cael eu gwahodd i rannu eu barn fel rhan o'r broses ymgynghori ar-lein, drwy e-bost neu drwy'r post – Mr Owain Lloyd, Cyfarwyddwr Addysg, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, Neuadd y Sir, Rhiw'r Castell, Caerfyrddin, SA31 1JP.

Mae'r cynigion hyn yn dilyn penderfyniad gan Gabinet y Cyngor ym mis Mawrth 2024 i gael gwared ar y polisi Plant sy'n Codi'n 4 Oed o 1 Medi 2025, bydd plant yn hytrach yn cael addysg amser llawn ar ddechrau'r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 4 oed.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, y Cynghorydd Glynog Davies:

Trwy groesawu plant tair oed yn yr ysgolion hyn, rydyn ni'n helpu i gryfhau cymunedau lleol a chefnogi teuluoedd yn ystod cyfnod pwysig yn natblygiad eu plant. Rwy'n annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a rhannu eu barn."

Ar ôl y cyfnod ymgynghori bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet i gael penderfyniad yn ei gylch.