229 diwrnod yn ôl
Dewch i archwilio Sir Gaerfyrddin ar ddwy olwyn dros yr haf, gyda llwybrau beicio di-draffig ledled y sir sy'n addas i deuluoedd, anturiaethwyr a'r rhai sy'n dwlu ar natur ddarganfod harddwch y sir ar feic.
Mae fideo newydd wedi'i greu i dynnu sylw at rai o lwybrau beicio gorau Sir Gâr.
Y llwybrau beicio gorau i'w harchwilio:
1. Rhan orllewinol o Lwybr Dyffryn Tywi
Llwybr newydd ar lan yr afon heddychlon sy'n dod yn boblogaidd yn gyflym. Yn dechrau yn Amgueddfa Caerfyrddin yn Abergwili ac yn mynd ymlaen i Nantgaredig
2. Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol – Llwybr Arfordirol y Mileniwm
Beiciwch o Lanelli i Barc Gwledig Pen-bre, gan fwynhau golygfeydd godidog dros Fae Caerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr, gyda digon o arosfannau sy'n addas i deuluoedd ar hyd y ffordd.
3. Llwybr 47 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol – Llwybr Dyffryn y Swistir
Mwynhewch daith goetir cysgodol drwodd i'r Tymbl, gan basio cronfa ddŵr tawel Dyffryn y Swistir, gan barhau tuag at Cross Hands.
4. Llwybr 437 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol - Llwybr Glan yr Afon Dyffryn Aman
Gan ddechrau ar dir Clwb Rygbi Pantyffynnon sy'n arwain at Barc Natur Brynaman ac Ynys Dawela, mae'r llwybr ysgafn hwn ar lan yr afon yn berffaith i deuluoedd ac mae'n cynnwys mannau picnic gwych, mannau chwarae a golygfeydd heddychlon.
Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith - y Cynghorydd Edward Thomas:
Mae ein rhwydwaith beicio di-draffig yn ffordd wych, rhad ac am ddim o fwynhau'r awyr agored yn enwedig i deuluoedd sy'n chwilio am bethau iach, hwyliog i'w gwneud dros yr haf.
O lwybrau ar hyd yr afon i olygfeydd arfordirol a llwybrau drwy'r coetir, mae rhywbeth i bawb."
Mae'r llwybrau hyn yn rhan o Rwydwaith Teithio Llesol Sir Gâr, sy'n eu gwneud nhw'n ddelfrydol ar gyfer teithio'n ddiogel ac mewn modd cynaliadwy i atyniadau, pentrefi lleol, neu i gael diwrnod mas a mwynhau natur.
Dysgwch fwy ar wefan Darganfod Sir Gâr.
