Dathlu Haf Llawn Digwyddiadau ym Mharc Gwledig Pen-bre
10 awr yn ôl

Mae Parc Gwledig Pen-bre wedi mwynhau tymor bywiog a llwyddiannus dros yr haf. Mae wedi cynnal ystod eang o ddigwyddiadau dan adain Cyngor Sir Caerfyrddin yn ogystal â nifer o weithgareddau wedi'u trefnu gan weithredwyr preifat. Mae'r parc wedi croesawu miloedd o ymwelwyr, gan gadarnhau ei enw da fel un o gyrchfannau gorau Sir Gâr ar gyfer hamddena, mwynhau diwylliant a chael profiadau fel teulu.
Mae'r uchafbwyntiau yr haf yma wedi cynnwys Syrcas Bwyd Stryd, Saffaris Traeth, Pencampwriaethau Traws Gwlad yr Urdd, Diwrnodau Hwyl i'r Teulu, Gwersylloedd Sgïo Iau a Gala Haf y Rheilffordd Fach. Yn ddiweddar iawn bu'r parc yn gartref i Ŵyl Cwtchlaa 2025 ddydd Sadwrn 16 Awst a chafodd yr holl docynnau eu gwerthu ymlaen llaw. Roedd yn cynnwys cerddoriaeth deyrnged fyw, bwyd stryd, sesiynau llesiant, gweithgareddau i blant, ffair hwyl, a phrif set gan Flash: A Tribute to Queen – gyda'r dorf yn ymateb yn frwdfrydig i bob un ohonynt.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Mae'r haf hwn wedi bod yn wych i Barc Gwledig Pen-bre, gyda'r digwyddiadau dan adain y Cyngor a'r rhai wedi'u cynnal gan drefnwyr preifat gyda'i gilydd yn cynnig rhywbeth i bawb. Roedd yn wych gweld cymaint o deuluoedd, ymwelwyr a phobl leol yn mwynhau'r parc, p'un ai ar gyfer chwaraeon, diwylliant, bwyd neu gerddoriaeth. Mae digwyddiadau fel y rhain nid yn unig yn cefnogi ein heconomi leol, maen nhw hefyd yn arddangos Sir Gâr fel cyrchfan na allwch ei cholli.”
Nid yw'r haf drosodd eto – mae yna ddigwyddiadau i'w mwynhau o hyd cyn i'r gwyliau ysgol ddod i ben, gan gynnwys perfformiad theatr awyr agored am ddim ar 28 a 29 Awst.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i ymrwymo i gefnogi calendr amrywiol o ddigwyddiadau ym Mharc Gwledig Pen-bre, gan wneud y mwyaf o un o asedau naturiol gorau'r sir.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sy'n digwydd ym Mharc Gwledig Pen-bre ac ar draws Sir Gâr ewch i: www.darganfodsirgar.com/be-sy-mlaen/