Datganiad ar Ysgol Gynradd Gymunedol Carwe

6 diwrnod yn ôl

Mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Caerfyrddin, mae Corff Llywodraethu Ffederasiwn Carwe, Gwynfryn a Phonthenri, yn dilyn cyngor gan yr Awdurdod Lleol, wedi gwneud y penderfyniad angenrheidiol i beidio ag ailagor Ysgol Gynradd Carwe ar gyfer dechrau'r tymor newydd ym mis Medi.

Mae'r penderfyniad anodd ond angenrheidiol hwn wedi'i wneud ar ôl i'r Cyngor dderbyn cyngor strwythurol ar gyfer Adeilad Tri o ystâd yr ysgol.

Fel rhan o raglen fonitro barhaus y Cyngor o'i ystâd o adeiladau, cynhaliwyd arolwg o gyflwr  ystâd Ysgol Carwe a nododd yr angen i gynnal ymchwiliad strwythurol pellach i Adeilad Tri a gafodd ei wneud yn ystod gwyliau'r haf, pan oedd yr adeilad a safle'r ysgol yn wag.

Yn dilyn yr ymchwiliad, cafodd y Cyngor ei gynghori nad oedd modd i'r asesiad pellach hwn ddarparu'r sicrwydd angenrheidiol ynghylch uniondeb yr adeilad ac felly ei fod yn ddiogel i'w ddefnyddio.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd y Cyngor yn gwneud gwaith pellach i benderfynu beth ddylid ei wneud gyda'r adeilad diffygiol.

Y brif flaenoriaeth yw diogelwch a llesiant y disgyblion a’r staff. Mae trefniadau'n cael eu gwneud i sicrhau bod addysg a dysgu yn parhau'n ddi-dor, gyda phob disgybl yn cael mynychu Ysgol Gwynfryn ar gyfer dechrau'r tymor newydd ym mis Medi.

Mae'r penderfyniad hwn wedi'i wneud er mwyn sicrhau diogelwch llwyr y disgyblion a’r staff.

Mae gwaith yn mynd rhagddo i nodi darpariaeth addas i blant sy'n mynychu'r Cylch Meithrin, gyda mwy o wybodaeth yn cael ei darparu i rieni cyn gynted â phosibl.

Ceir rhagor o wybodaeth i rieni ar wefan y Cyngor.