Cyngor Sir Caerfyrddin yn cefnogi'r polisi "Ffôn o'r Golwg" i wella lles a dysg myfyrwyr
3 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio'n agos gydag ysgolion lleol i weithredu'r polisi newydd "Ffôn o'r Golwg", sydd wedi'i gynllunio i hyrwyddo lles, diogelwch a llwyddiant academaidd myfyrwyr.
Mae'r polisi'n gwahardd disgyblion Blynyddoedd 7-11 rhag defnyddio ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol, gyda defnydd cyfyngedig yn cael ei ganiatáu i fyfyrwyr Chweched Dosbarth mewn mannau dynodedig. Trwy leihau ffactorau sy'n gysylltiedig â ffonau sy'n tynnu sylw, nod y fenter yw creu amgylchedd dysgu tawel lle mae modd canolbwyntio, gan fynd i'r afael â phryderon sy'n gysylltiedig â gormod o amser sgrin.
Mae nifer o astudiaethau wedi dangos y gall gorddefnyddio ffonau symudol gyfrannu at:
- Mwy o bryder a chwsg gwael
- Perfformiad academaidd is
- Oedi mewn datblygiad cymdeithasol ac emosiynol
Mae'r polisi hwn yn meithrin dull ataliol, gan sicrhau bod ysgolion yn parhau i fod yn fannau diogel, cefnogol lle gall myfyrwyr ffynnu.
Crynodeb o’r Polisi
Blynyddoedd 7–11
- Rhaid diffodd ffonau a'u rhoi o'r golwg, o'r adeg pan fyddant yn cyrraedd tan amser mynd adref.
- Dim defnyddio ffonau yn ystod amser egwyl, amser cinio, nac mewn gwersi (gan gynnwys addysg gorfforol ac arholiadau).
- Nid yw cyswllt uniongyrchol rhwng myfyriwr a rhiant yn ystod y diwrnod ysgol yn cael ei ganiatáu.
Blynyddoedd 12–13
- Caniateir defnydd cyfyngedig o ffonau yn ardal y Chweched Dosbarth yn unig.
- Ym mhob ardal arall yn yr ysgol mae'r un rheolau'n berthnasol ag ar gyfer Blynyddoedd 7-11.
Partneriaeth â Rhieni
Mae'r cyngor yn cydnabod bod cymorth rhieni'n hollbwysig i lwyddiant y fenter hon. Gofynnir i rieni a gofalwyr:
- Osgoi cysylltu â phlant yn uniongyrchol yn ystod y diwrnod ysgol, gan ddefnyddio swyddfa'r ysgol yn lle hynny.
- Trafod â'u plant ynghylch defnyddio ffonau symudol mewn modd diogel a pharchus.
- Annog arferion digidol da gartref, gan gynnwys treulio amser fel teulu heb fod ar sgrin.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, y Cynghorydd Glynog Davies:
“Mae'r polisi 'Ffôn o'r Golwg' yn gam pwysig o ran cefnogi iechyd, diogelwch a chanlyniadau addysgol ein pobl ifanc.
Trwy weithio mewn partneriaeth ag ysgolion a theuluoedd, gallwn greu'r amodau i ddisgyblion ganolbwyntio'n llawn ar eu dysg a'u datblygiad.”
Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan y Cyngor.