Sir Gâr yn paratoi ar gyfer haf llawn hwyl i'r teulu wrth i wyliau'r ysgol ddechrau
1 diwrnod yn ôl

Wrth i'r ysgolion baratoi i gau ar gyfer yr haf, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cefnogi teuluoedd drwy gynnig rhaglen fywiog o ddigwyddiadau, gweithgareddau ac adloniant ym mhob rhan o'r sir.
Darganfod Sir Gâr yw'r lle gorau i fynd i weld y rhestr ddiweddaraf o ddigwyddiadau ac atyniadau. O wyliau cymunedol i weithgareddau sy'n addas i deuluoedd, mae cymaint i edrych ymlaen ato yr haf hwn.
Mae lleoliadau'r Cyngor Sir, gan gynnwys ein parciau gwledig hardd, yn ganolog i'r cyfan.
- Gwersyll Sgïo Iau (18–23 Gorffennaf)
- Diwrnod Hwyl i'r Teulu (26 Gorffennaf)
- Saffari ar Lan y Môr (2 Awst)
- Teithiau beicio dan arweiniad y Ceidwaid (21 Gorffennaf a 29 Awst)
- Gwersyll Haf Iau (4-9 Awst)
- NEWYDD! Gŵyl Cwtchalla (16 Awst) – Digwyddiad cerddoriaeth newydd sbon sy'n addas i deuluoedd a fydd yn cynnwys perfformiadau teyrnged wedi'u hysbrydoli gan Taylor Swift, Queen, Madness, a mwy, ynghyd â bwyd stryd, reidiau ffair ac adloniant i bob oed mewn llecyn braf ar lan y môr.
- Chwilota yn y Pwll – (22 Gorffennaf)
- Sgiliau Goroesi – (28 Awst)
- Taith Gerdded Natur ar y thema Ystlumod – (22 Awst - gyda'r nos)
Ym Mhentywyn, gall teuluoedd brofi cyflymder a gwyddoniaeth yn yr Amgueddfa Cyflymder, ac yna mwynhau rownd o Wallgolff newydd cyffrous Caban, sef cwrs antur lliwgar 12 twll sydd eisoes yn boblogaidd ymhlith ymwelwyr.
Drwy gydol yr haf, mae Canolfannau Hamdden Actif y Cyngor Sir yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau i helpu teuluoedd i gadw'n egnïol ac i'w difyrru. O offer gwynt yn y pwll nofio, Byrddau Dŵr, a brwydrau Nerf i ddiwrnodau gweithgareddau ar thema a sesiynau creadigol, mae digonedd o bethau i'w gwneud. Mae Clwb Actif, y clwb gwyliau poblogaidd, hefyd yn ôl, gan gynnig opsiynau hanner diwrnod a diwrnod llawn i rieni sy'n gweithio. Fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i weithgareddau hygyrch, bydd sesiynau nofio am ddim ar gael i blant dan 16 oed ar benwythnosau penodol yng Nghanolfannau Hamdden Llanelli, Dyffryn Aman a Llanymddyfri.
Mae llyfrgelloedd Sir Gâr yn cynnal gweithgareddau ymarferol am ddim drwy gydol y mis, o amser stori a chwarae LEGO i glybiau crefftau a chodio sy'n cynnig hwyl, dysgu a chreadigrwydd i blant o bob oedran.
Mae Theatrau Sir Gâr yn cynnig digwyddiadau cyffrous ar draws theatrau'r Lyric, y Glowyr, a'r Ffwrnes. Mae'r rhaglen yn cynnwys sioeau teuluol, cerddoriaeth fyw, nosweithiau comedi, a sioeau cerdd, gan gynnwys uchafbwyntiau fel Breadcrumbs, Ceridwen, 9 to 5 The Musical, The Louis & Ella Music Show, comedi stand-yp, ac One Foot in the Groove, sef rêf yn ystod y dydd. Bydd diwrnodau hwyl i'r teulu am ddim hefyd yn cael eu cynnal ym mhob lleoliad drwy gydol yr haf.
Mae timau cymunedol Actif yn cyflwyno gweithgareddau ledled y sir yr haf hwn, gan gynnwys llogi beiciau am bris fforddiadwy gan Amgueddfa Sir Gâr yn Abergwili i deuluoedd feicio ar hyd rhan orllewinol newydd Llwybr Dyffryn Tywi. Mae gan Sir Gâr ddarpariaeth feicio wych gan fod Llwybrau Sustrans 4, 437, a 47 yn mynd drwy'r sir gan gynnig ffordd hwyliog a fforddiadwy o fwynhau arfordir a chefn gwlad y sir.
Ewch i fwynhau picnic ar un o draethau Sir Gâr sydd wedi ennill gwobrau, sef Cefn Sidan, Pentywyn, neu Lansteffan, neu archwilio adfeilion dramatig cestyll Carreg Cennen, Dinefwr, a Chydweli i gael blas ar hanes ac antur. I gael ysbrydoliaeth ar ble i fynd ar hyd yr arfordir, gwyliwch fideos arfordirol Ameer sy'n dangos y rhannau gorau o arfordir Sir Gâr.
Mae digon yn digwydd ar draws amgueddfeydd CofGâr yr haf hwn i deuluoedd.
Yn Amgueddfa Sir Gâr yn Abergwili, mwynhewch Bythefnosau Teuluol gyda llwybrau a gweithgareddau wedi'u thema o amgylch archaeoleg, Cymru, a natur o 21 Gorffennaf i 31 Awst. Mae uchafbwyntiau'n cynnwys Diwrnod Darganfyddiadau ar 2 Awst, ein Diwrnod Hwyl i'r Teulu ar yr Hen Aifft ar 14 Awst, a'r sioe fywiog ‘Adenydd yn yr Helyg’ ar 25 Awst. Peidiwch â cholli'r arddangosfa Archwilio'r Hen Aifft chwaith.
Yn Amgueddfa Cyflymder, Pentywyn, galwch heibio i sesiynau crefft Clwb Ceir Crefftus a Rhyfeddol Ddydd Mercher o 23 Gorffennaf i 20 Awst. Hefyd, clywch gan ddeiliad record cyflymder tir Louisa Swaden (AKA ‘The Existential Biker’) ar 9 Awst am ei phrofiadau yn Nhraeth Pentywyn a lansiad ei llyfr newydd.
Mae Amgueddfa Parc Howard yn Llanelli yn dathlu menywod mewn chwaraeon gydag arddangosfa newydd ac yn cynnal wythnosau gweithgareddau teuluol â thema gan gynnwys posteri Ewro 2025, crefftau'r Hen Aifft, lliwio pen-blwydd yn 80 oed Diwrnod VJ, ac Wythnos Deinosoriaid.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Mae'r Cyngor Sir yn falch o arwain a chefnogi rhaglen lawn ac amrywiol o ddigwyddiadau yr haf hwn i helpu teuluoedd i fanteisio i'r eithaf ar wyliau'r ysgol. Drwy ymdrechion y Cyngor ei hun, ochr yn ochr ag ymroddiad sefydliadau, lleoliadau a grwpiau cymunedol lleol, mae rhywbeth at ddant pawb, boed hynny'n ddiwrnodau allan fforddiadwy, anturiaethau awyr agored, gweithdai creadigol, neu brofiadau diwylliannol. Mae Sir Gâr yn llawn gweithgareddau, digwyddiadau a lleoedd i'w mwynhau."
I weld y rhestr lawn, manylion archebu, a rhagor o syniadau ar gyfer eich anturiaethau i'r teulu, ewch i wefan Darganfod Sir Gâr.