Rhybudd i drigolion: cadwch lygad am e-byst sgam ynghylch y dreth gyngor

10 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn rhybuddio trigolion am negeseuon e-bost twyllodrus sy'n honni bod oddi wrth y Cyngor ynghylch treth gyngor sydd heb ei thalu. Nid negeseuon oddi wrth y Cyngor yw'r rhain, ac maen nhw'n cael eu hanfon er mwyn twyllo'r sawl sy'n eu derbyn i ddatgelu gwybodaeth bersonol neu ariannol.

Os byddwch chi'n cael e-bost sydd heb ddod o gyfeiriad e-bost swyddogol @sirgar.gov.uk, mae'n debygol iawn mai sgam yw hwn. Dylai pobl osgoi clicio ar unrhyw ddolenni neu lawrlwytho atodiadau sydd mewn negeseuon e-bost amheus neu anhysbys. Yn lle hynny, anfonwch unrhyw negeseuon e-bost rydych chi'n amau mai sgam yw nhw i report@phishing.gov.uk, sef gwasanaeth adrodd gan Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol Llywodraeth y DU (NCSC).

Meddai'r Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

Mae'r mathau hyn o sgamiau'n achos pryder mawr, yn enwedig pan maen nhw'n targedu trigolion am rywbeth mor bwysig â'r dreth gyngor. Rydyn ni am roi sicrwydd i bobl na fydd Cyngor Sir Caerfyrddin byth yn gofyn i chi wirio manylion talu drwy ddolen e-bost generig. Os oes amheuon gyda chi, cysylltwch â ni'n uniongyrchol. Mae bod yn ofalus a rhoi gwybod am negeseuon amheus yn helpu i ddiogelu'r gymuned gyfan yn ogystal â chi'ch hunan."

Os oes gyda chi unrhyw bryderon am eich cyfrif Treth Gyngor, cysylltwch â Chyngor Sir Caerfyrddin drwy e-bostio Trethcyngor@sirgar.gov.uk.

Os yw eich pryder am neges sy'n honni dod o Gyngor Sir Caerfyrddin ac rydych yn amau ei bod yn dwyllodrus, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt Cwsmeriaid ar 01267 234567.

Mae'r Cyngor yn annog pawb i fod yn wyliadwrus ac i roi gwybod am unrhyw gyfathrebu amheus.