Pwll Nofio Caerfyrddin – Dyddiad Ailagor wedi'i Gadarnhau!

2 diwrnod yn ôl

Rydym wrth ein bodd yn rhannu newyddion gwych â chi – mae Pwll Nofio Caerfyrddin i fod i ailagor ddydd Llun, 11 Awst!

Diolch am eich amynedd parhaus wrth i waith gwella hanfodol gael ei wneud i'r pyllau nofio yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin. Fel gydag unrhyw brosiect adeiladu, mae o hyd yn bosibl y bydd angen gwneud newidiadau terfynol, ond rydym yn gweithio'n agos gyda chontractwyr i sicrhau bod popeth yn barod ar gyfer y dyddiad hwn.

Pwysig – Nid oes angen cymryd camau ar hyn o bryd, felly peidiwch â chysylltu â ni eto

Rydym yn gwybod bod nifer ohonoch chi'n awyddus i ddychwelyd, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu yn ôl! Yn naturiol, byddwch chi am wybod a fyddwch chi'n cael eich slot nofio yn ôl, pryd y gall eich aelodaeth ailgychwyn, neu pryd y bydd modd archebu partïon.

Ond gofynnwn yn garedig ichi beidio â chysylltu â ni am y tro.

Os ydych chi'n perthyn i un o'r grwpiau canlynol, bydd ein tîm yn cysylltu â chi'n uniongyrchol yn fuan iawn:

  • Y rhai sy'n cymryd rhan yn y rhaglen Dysgu Nofio, gan gynnwys:
    • Y rhai sydd â lleoedd wedi'u rhewi sy'n aros am gael dychwelyd
    • Y rhai a drosglwyddodd dros dro i safle Actif arall ac sy'n bwriadu dychwelyd i Gaerfyrddin
  • Cwsmeriaid sydd ag aelodaeth nofio neu ffitrwydd wedi'i rhewi
  • Clybiau nofio sy'n defnyddio'r pwll yn rheolaidd
  • Unrhyw un sydd wedi holi am drefnu partïon pen-blwydd

Rydym yn addo y byddwn yn cysylltu â chi cyn bo hir gyda'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch – felly nid oes angen ichi ffonio neu anfon neges e-bost yn y cyfamser.

Diolch eto am eich cefnogaeth – rydym bron yno, ac rydym yn edrych ymlaen at eich gweld yn ôl yn y pyllau nofio cyn bo hir!

Chwaraeon a Hamdden Actif