Pob lwc Cymru! Fideo plant ysgolion Sir Gâr

2 diwrnod yn ôl

Hoffai Cyngor Sir Gâr ddymuno pob lwc i Dîm Pêl-droed Cenedlaethol Merched Cymru wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer dechrau eu hymgyrch UEFA EWRO Menywod 2025.

Bydd gêm agoriadol y tîm yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn, 5 Gorffennaf, gyda'r gic gyntaf am 5:00pm.

I ddymuno'n dda i'n merched ar gyfer y twrnamaint, mae tîm Chwaraeon a Hamdden Actif Cyngor Sir Caerfyrddin wedi creu montage fideo o blant ysgolion Sir Gaerfyrddin yn dangos eu cefnogaeth i dîm Cymru.

                                                Gallwch ei wylio yma

Yn falch o hyrwyddo chwaraeon menywod, mae Chwaraeon a Hamdden Actif wedi ymrwymo i greu cyfleoedd mwy cynhwysol a grymusol i fenywod a merched gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol – mewn ysgolion, canolfannau hamdden, ac ar draws y gymuned ehangach.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Rydyn ni'n hynod falch o dîm Merched Cymru. Maen nhw'n ysbrydoliaeth i gymaint o bobl, a byddwn ni'n eu cefnogi ar bob cam o'r ffordd. Fel Cyngor Sir, rydym hefyd wedi ymrwymo i sicrhau bod eu llwyddiant yn parhau trwy gefnogi cyfleoedd i fenywod a merched ffynnu mewn chwaraeon ledled ein sir. Pob lwc Cymru!”

Am ragor o wybodaeth, ewch i https://newyddion.sirgar.llyw.cymru/2025/06/uefa-ewro-menywod/