Paratowch am Haf bythgofiadwy yng nghanol trefi Sir Gaerfyrddin!
2 diwrnod yn ôl

Diolch i gefnogaeth Cyngor Sir Caerfyrddin a chyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, mae canol trefi Sir Gaerfyrddin – Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman wedi dod yn fyw yr haf hwn gyda chyfres wych o ddigwyddiadau sydd wedi dod â chymunedau at ei gilydd, wedi dathlu talent leol, wedi arddangos cynnyrch lleol anhygoel, ac wedi helpu canol ein trefi i ffynnu. Mae hyd yn oed mwy o ddigwyddiadau cyffrous ar y gorwel, gan ddod â hwyl, adloniant a phrofiadau bythgofiadwy i bawb.
Mae Sir Gaerfyrddin eisoes wedi dathlu Gŵyl Myrddin Caerfyrddin, Gŵyl Llanelli o'r 80au, a Gŵyl Fwyd Haf Rhydaman hynod lwyddiannus. Mae'r digwyddiadau hyn yn rhan allweddol o genhadaeth y Cyngor i helpu i ddod â phobl yn ôl i ganol trefi, cefnogi masnachwyr annibynnol, a chreu canol trefi croesawgar.
Gyda llawer mwy o ddigwyddiadau wedi'u cynllunio dros y misoedd nesaf, dyma amser perffaith i weld beth sydd gan Sir Gaerfyrddin i'w gynnig.
Gŵyl Afon Caerfyrddin – 19 Gorffennaf
Mae Cyngor Tref Caerfyrddin yn cyflwyno Gŵyl yr Afon, dathliad o Afon Tywi ac ysbryd Caerfyrddin. Dewch i fwynhau gweithgareddau ar thema dŵr, bwyd lleol, adloniant byw, a hwyl i bawb.
Pride Rhydaman – 2 Awst
Mae Cyngor Tref Rhydaman yn cynnal y digwyddiad Pride bywiog hwn, sy'n dathlu amrywiaeth a'r gymuned LGBTQ+ leol. Byddwch yn barod am ddiwrnod llawn lliw, llawenydd ac undod yng nghanol y dref.
AugustFest Llanelli – 2 Awst
Wedi'i drefnu gan Ymlaen Llanelli, mae AugustFest yn dychwelyd gyda bang! Dewch i fwynhau diwrnod o gerddoriaeth fyw, adloniant stryd, hwyl i'r teulu, a bwyd blasus. Bydd yn un o ddigwyddiadau mwyaf yr haf – diwrnod na ddylid ei golli!
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth Cyngor Sir Caerfyrddin
Mae'r digwyddiadau hyn yn chwarae rhan hanfodol yn ein hymdrechion parhaus i ddod â bywiogrwydd yn ôl i ganol ein trefi. Mae'r digwyddiadau hyn yn cynnig cyfle gwych i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd ddod at ei gilydd, mwynhau ein trefi, a chefnogi busnesau lleol a hynny diolch i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy'n darparu cyllid wedi'i dargedu i gynghorau tref ac Ardaloedd Gwella Busnes (AGB) ledled Sir Gaerfyrddin, a chefnogaeth barhaus gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Mae'r dull hwn yn helpu i annog ysbryd cymunedol a chreu canol trefi croesawgar, ffyniannus i bawb eu mwynhau."
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am beth sy'n digwydd ledled Sir Gaerfyrddin yr haf hwn a thu hwnt, ewch i Darganfodsirgar.com.