Oriel Myrddin i gynrychioli Cymru yn Biennale Fenis 2026

8 diwrnod yn ôl

Mae Oriel Myrddin yng Nghaerfyrddin, sy'n derbyn cyllid gan Gyngor Sir Caerfyrddin, wedi cael ei gyhoeddi fel un o'r partneriaid allweddol yng nghyflwyniad swyddogol Cymru yn Biennale Fenis 2026 - un o arddangosfeydd celf rhyngwladol mwyaf mawreddog y byd.

Mae'r oriel yn gweithio ochr yn ochr â'r artistiaid o Gaernarfon, Manon Awst a Dylan Huw, ac Oriel Davies yn y Drenewydd, ar brosiect uchelgeisiol a ddewiswyd i gynrychioli Cymru yn Fenis yn y 61ain Arddangosfa Gelf Ryngwladol - La Biennale di Venezia.

Fel partner curadurol, bydd Oriel Myrddin yn chwarae rhan ganolog wrth lunio datblygiad yr arddangosfa yn Fenis ac yng Nghymru, gan sicrhau cysylltiadau cryf â chymunedau a chynulleidfaoedd lleol yn Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Dyma eiliad y gall Sir Gaerfyrddin ymfalchïo ynddi. Mae cyfranogiad Oriel Myrddin mewn prosiect rhyngwladol mor fawreddog yn dyst i'r dalent, y weledigaeth a'r gwerth diwylliannol sy'n cael ei feithrin yma yn ein cymunedau. Rydym wrth ein bodd i weld oriel leol yn chwarae rhan flaenllaw wrth gynrychioli Cymru ar y llwyfan byd-eang."

Ar hyn o bryd mae Oriel Myrddin yn cael ei hailddatblygu yn sylweddol ac mae disgwyl iddi ailagor yn Hydref 2025, gan nodi pennod newydd gyffrous i'r oriel a'i hymgysylltiad â chynulleidfaoedd lleol a chenedlaethol.