Mae'r Cyngor yn lansio gwasanaeth i wella cartrefi ac ystadau

11 awr yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi lansio Tîm Tacluso Tai, gwasanaeth cynnal a chadw a glanhau newydd sy'n canolbwyntio ar wella cartrefi ac ystadau sy'n eiddo i'r Cyngor.

Bydd y Tîm Tacluso Tai yn cyflawni tasgau cynnal a chadw a glanhau cyffredinol ar raddfa fach i gynnal a gwella ymddangosiad cartrefi ac ystadau sy'n eiddo i'r Cyngor yn ogystal â chefnogi gwasanaeth Atgyweirio Tai y Cyngor i gwblhau atgyweiriadau ar raddfa fach.

Yn y lle cyntaf bydd y tîm newydd yn dilyn rhaglen o waith, gyda phrosiectau amrywiol eisoes wedi'u cyflawni ledled y sir mewn ardaloedd gan gynnwys Trimsaran, Rhydaman, Llanelli, Porthyrhyd, Llwynhendy, y Tymbl a Phorth Tywyn.

Mae'r gwaith a wnaed yn cynnwys cynnal a chadw a thacluso ystadau; clirio gordyfiant y tu allan i gartrefi, meysydd parcio ac ardaloedd cymunedol; clirio a glanhau cwteri; paentio gatiau gardd; cynnal a chadw waliau gan gynnwys ailosod cerrig copa; paratoi ar gyfer gwaith saer; selio arwynebau gwaith ceginau ac addasu drysau.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Davies Evans, yr Aelod Cabinet dros Gartrefi:

Mae'r Tîm Tacluso Tai eisoes wedi bod yn llwyddiannus iawn, gyda thrigolion a chymunedau ledled Sir Gaerfyrddin yn elwa ar waith ardderchog y tîm.

Yn ogystal â gweithio ar raglen atgyweiriadau sydd wedi'i threfnu i gynnal a chadw ein stadau, bydd y tîm hefyd yn cefnogi'r tîm atgyweiriadau tai trwy wneud mân atgyweiriadau lle bo modd, lleihau amseroedd aros a galluogi'r Tîm Atgyweirio Tai i ganolbwyntio ar waith mwy o faint.”

Mae'r Tîm Tacluso Tai wedi cael ei ddatblygu yn dilyn llwyddiant Tîm Tacluso Cyngor Sir Caerfyrddin, menter gyda'r nod o wella glendid a golwg canol ein trefi.

Ewch i wefan y Cyngor i gael rhagor o wybodaeth.