Hwb Bach y Wlad yn cyrraedd dros 11,000 o breswylwyr, gan roi cymorth hanfodol i gefn gwlad Sir Gâr

1 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch o dynnu sylw at lwyddiant parhaus Hwb Bach y Wlad, sef menter hanfodol sy'n mynd i'r afael â thlodi gwledig ac yn cefnogi cymunedau ledled y sir. Ers ei lansio ar 18 Medi 2023, mae'r gwasanaeth wedi cyrraedd 11,646 o unigolion, gan gynnig cyngor a chymorth uniongyrchol, wyneb yn wyneb i'r rhai sy'n byw yn rhai o ardaloedd mwyaf diarffordd Sir Gâr.

Mae 484 o ymweliadau wedi'u cwblhau hyd yma, ac mae'r fenter yn darparu cyngor hanfodol ynghylch costau byw, arweiniad ac atgyfeiriadau uniongyrchol i sefydliadau partner allweddol gan gynnwys Cyngor ar Bopeth, banciau bwyd lleol, Age Cymru, Cysylltu Sir Gâr, Angor, Adfer Energy a llawer mwy. Mae digwyddiadau galw heibio cymunedol wedi'u teilwra wedi cael eu cynnal i ddarparu cymorth sy'n canolbwyntio ar gyflogadwyedd, effeithlonrwydd ynni, a gwasanaethau i'r rhai y mae canser a salwch sy'n cyfyngu ar fywyd yn effeithio arnyn nhw.

Gan weithio gyda gwasanaeth trafnidiaeth Bws Bach y Wlad, mae Hwb Bach y Wlad yn sicrhau nad oes unrhyw breswylydd yn cael ei adael ar ôl trwy helpu pobl i gael mynediad at y cymorth a'r gwasanaethau y mae ganddyn nhw hawl i'w cael, waeth ble maen nhw'n byw. Mae'r dull symudol hwn yn gwaredu rhwystrau ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn cymunedau gwledig.

Dywedodd y Cynghorydd Carys Jones, yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio:

Pwrpas Hwb Bach y Wlad yw dod â chymorth i bobl lle maen nhw'n byw. Yn rhy aml, mae'r rhai mewn ardaloedd gwledig yn teimlo eu bod yn cael eu gadael allan neu nad ydyn nhw'n gallu cael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw, ac mae'r fenter hon yn newid hynny. Rwy'n falch o'r gwaith y mae ein timau'n ei wneud ledled Sir Gâr, gan sicrhau bod pobl yn cael y cymorth a'r cyngor maen nhw'n ei haeddu.”

Bydd y tîm yn bresennol mewn amrywiaeth o sioeau amaethyddol a digwyddiadau cymunedol sydd ar ddod dros y misoedd nesaf i ymgysylltu ymhellach â phreswylwyr. Ymhlith y digwyddiadau mae:

Sioeau Amaethyddol

·       Sioe Pontargothi – 31 Mai 2025

·       Sioe Sanclêr – 21 Mehefin 2025

·       Sioe Llanddarog – 28 Mehefin 2025

·       Sioe Llandeilo – 16 Awst 2025

·       Sioe Llandysul – 6 Medi 2025

·       Sioe Llandyfaelog – 13 Medi 2025

Digwyddiadau Cymunedol

·       Gŵyl Fach Newy – 7 Mehefin 2025

·       Carnifal Cross Hands – 5 Gorffennaf 2025

·       Gŵyl Canol Dre – 12 Gorffennaf 2025

·       Picnic yn y Parc, Llanybydder – 16 Awst 2025

·       Gŵyl Ddefaid Llanymddyfri – 20 a 21 Medi 2025

Gall preswylwyr hefyd gael mynediad at sesiynau galw heibio lleol rheolaidd mewn lleoliadau ledled y sir. I gael y manylion llawn, gweler yr amserlen yma.

Mae preswylwyr yn cael eu hannog i gysylltu os ydyn nhw'n gwybod am ddigwyddiad yn eu cymuned a fyddai'n elwa o'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig gan Hwb Bach y Wlad. Anfonwch e-bost at galw@sirgar.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.