Haf o hwyl yn Theatrau Sir Gâr

3 diwrnod yn ôl

Yr haf hwn, mae gan Theatrau Sir Gâr raglen gyffrous o adloniant byw yn eu tair theatr ledled Sir Gaerfyrddin, sef Theatr y Glowyr yn Rhydaman, Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin, a Theatr y Ffwrnes yn Llanelli.

Mae'r tymor yn dechrau mewn steil ar 26 Gorffennaf yn Theatr y Glowyr, Rhydaman gyda Breadcrumbs, sef cynhyrchiad newydd sbon i'r teulu sy'n llawn cerddoriaeth, hud a phypedwaith.

Ar 25 a 26 Gorffennaf, bydd Ceridwen yn Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin, sef cynhyrchiad dwyieithog cyfareddol gan Gwmni Theatr yr Urdd. Mae'n cynnwys cerddoriaeth fyw a chast dawnus o berfformwyr ifanc, ac mae'r sioe hon, sy'n ail-greu un o straeon mwyaf chwedlonol Cymru, yn argoeli bod yn brofiad theatrig gwirioneddol unigryw a bythgofiadwy.

Bydd y rhai sy'n mwynhau cerddoriaeth yn cael gwledd wrth i The Louis & Ella Music Show ddod i Theatr y Glowyr ar 1 Awst. Mae'r perfformiad hwn sy'n llawn enaid yn dathlu synau eiconig Louis Armstrong ac Ella Fitzgerald, ac yn cynnwys enwogion jazz fel The Oscar Peterson Quartet, The Dave Cottle Trio, a Sarah Meek, y gantores enwog.

Rhwng 31 Gorffennaf a 2 Awst, bydd Theatr y Ffwrnes, Llanelli yn croesawu 9 to 5 The Musical, a gyflwynir gan Grŵp Theatr Gerddorol Llanelli. Mae'r sioe hon yn llawn hiwmor ac egni sy'n grymuso, ac mae'n cynnwys caneuon gafaelgar a bythgofiadwy ynghyd â stori sy'n codi'r hwyliau ac sydd wedi'i hysbrydoli gan y ffilm boblogaidd.

I'r rhai sy'n mwynhau comedi, bydd digon o chwerthin yn digwydd yn y nosweithiau Clwb Comedi sy'n cynnwys digrifwyr stand-yp llawn addewid gorau'r DU. Dewch i weld yr holl ddoniolwch yn Theatr y Glowyr ar 25 Gorffennaf a Theatr y Ffwrnes ar 1 Awst.

I orffen yr haf mewn steil, bydd One Foot in the Groove yn Theatr y Ffwrnes ddydd Sadwrn, 9 Awst, sef rêf fywiog yn ystod y dydd dan arweiniad y carismatig Owen Money a'i ferch Katie Mittell. Gallwch ddisgwyl clywed caneuon poblogaidd o'r 60au, y 70au, a'r 80au, sy'n berffaith i'r rhai sy'n barod i hel atgofion drwy ddawnsio.

I ychwanegu at yr hwyl, bydd diwrnodau hwyl i'r teulu am ddim yn cael eu cynnal ym mhob un o'r tair theatr trwy gydol yr haf. Bydd dyddiadau a manylion yn cael eu cyhoeddi'n fuan ar wefan Theatrau Sir Gâr a sianeli cyfryngau cymdeithasol. I gael tocynnau a rhagor o wybodaeth, ewch i: http://www.theatrausirgar.co.uk

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:


“Rydym yn falch iawn o gefnogi rhaglen haf fywiog Theatrau Sir Gâr, gan ddod ag adloniant byw rhagorol i gymunedau ledled Sir Gaerfyrddin. Boed yn sioeau i'r teulu a sioeau cerdd neu gerddoriaeth, mae rhywbeth i bawb ei fwynhau! Mae'r digwyddiadau hyn nid yn unig yn dathlu ein treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog, maen nhw hefyd yn meithrin ysbryd cymunedol ac yn darparu profiadau cofiadwy i bob oedran.”