Gwaith gwella wedi'i gynllunio i ddechrau ar yr A484 Heol y Sandy - gwahoddir y cyhoedd i sesiynau galw heibio

1 diwrnod yn ôl

Disgwylir i'r gwaith gwella i leihau tagfeydd traffig ar yr A484 Heol y Sandy, Llanelli ddechrau ddydd Llun, 7 Gorffennaf 2025, wrth i Gyngor Sir Caerfyrddin, mewn cydweithrediad ag AtkinsRéalis, symud ymlaen gyda chynlluniau i ad-drefnu cyffordd yr A484 Heol y Sandy â Maes-y-Coed.

Mae'r gwaith gwella a ariennir gan Gronfa Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru yn cael ei wneud i fynd i'r afael â phroblemau hirdymor o ran tagfeydd, lleihau oedi a gwella diogelwch i holl ddefnyddwyr y ffordd. Mae hefyd yn rhan o strategaeth ehangach y Cyngor i wella ansawdd aer a hyrwyddo trafnidiaeth fwy cynaliadwy, hygyrch ar hyd coridor yr A484.

Nod y cynllun yw gwella mynediad i gyrchfannau lleol allweddol - Ysgol y Strade, Ysgol Ffwrnes, a Choleg Sir Gâr - drwy greu llwybrau mwy diogel a dibynadwy i fyfyrwyr, staff a theuluoedd. Yn cyd-fynd â strategaeth drafnidiaeth ehangach y Cyngor, mae'n hyrwyddo Teithio Llesol drwy well cysylltiadau ar gyfer cerdded a beicio a gwell cyfleusterau croesi, gan annog dewisiadau teithio iachach a mwy cynaliadwy.

Er mwyn sicrhau bod y gymuned leol yn cael y wybodaeth ddiweddaraf, bydd dwy sesiwn galw heibio gyhoeddus yn cael eu cynnal yn Neuadd Gymunedol y Strade a'r Sandy ar 2 Gorffennaf, 10am - 12pm a 5pm - 7pm.

Bydd y sesiynau hyn yn rhoi cyfle i breswylwyr a rhanddeiliaid ddysgu am y prosiect, a siarad â chynrychiolwyr o Gyngor Sir Caerfyrddin, AtkinsRéalis, Evan Pritchard (Contractwyr), a Core Highways (Rheoli Traffig) i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun.

O 2 Gorffennaf bydd sesiynau galw heibio wythnosol yn parhau bob dydd Mercher, rhwng 10am a 12pm yn Neuadd Gymunedol y Strade a'r Sandy, drwy gydol y cyfnod adeiladu.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

Rydym yn cydnabod pryderon hirdymor preswylwyr lleol am dagfeydd ar hyd Heol y Sandy, yn enwedig ar yr amseroedd prysuraf. Mae'r cynllun hwn yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol mewn gwella llif traffig, amseroedd teithio a diogelwch ffyrdd yn yr ardal. 
Rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu'n agored â'r gymuned drwy gydol y broses ac yn annog pawb i ddod i'r sesiynau galw heibio i rannu eu barn a gofyn cwestiynau.”

I gael rhagor o wybodaeth neu i gyflwyno ymholiadau, ewch i wefan y prosiect: A484 Sandy Road