Gwahodd preswylwyr Sir Gâr i ddweud eu dweud ar berfformiad eu Cyngor Sir

8 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gofyn am farn ei breswylwyr am sawl maes allweddol i ddeall sut maen nhw'n teimlo am berfformiad y Cyngor ac i lywio ei gynllunio a gosod blaenoriaethau'r dyfodol.

Cliciwch yma i gymryd rhan yn Arolwg Preswylwyr Cyngor Sir Caerfyrddin

Hoffai'r Cyngor Sir glywed gennych chi, i wybod sut y byddech chi'n blaenoriaethu meysydd ar gyfer buddsoddi ynddyn nhw wrth i'w Arolwg Preswylwyr geisio deall yn well beth yw'r heriau mwyaf enbyd sy'n wynebu preswylwyr Sir Gâr a'u teuluoedd.

Cymerodd dros 3,500 o breswylwyr ran yn yr arolwg y llynedd, a chafodd canfyddiadau arolwg 2024 eu rhannu ar draws adrannau'r Cyngor Sir i'w hystyried wrth gynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod. Gan adeiladu ar yr adborth a gafodd ei gasglu y llynedd, mae'r Awdurdod Lleol yn gofyn i'w breswylwyr a'i ddefnyddwyr gwasanaeth am eu barn unwaith eto i lunio ei benderfyniadau, ar adeg heriol i bob awdurdod lleol ledled Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu:

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, fel pob awdurdod lleol, yn wynebu cyfnod o alw cynyddol ar eu gwasanaethau mewn cyfnod lle mae adnoddau (ariannol neu fel arall) yn gostwng. Ein blaenoriaeth bob amser oedd gwneud ein gorau i'n preswylwyr a'n defnyddwyr gwasanaeth, ond mae'n rhaid i ni i gyd fod yn realistig ynghylch sut olwg sydd ar hynny yn y dyfodol. 
Mae'n bwysig iawn, felly, fod cymaint â phosibl o bobl sy'n byw yn Sir Gâr yn cymryd rhan yn ein Harolwg Preswylwyr, er mwyn rhoi'r cyfle gorau i ni ddarparu gwasanaethau sy'n diwallu eu hanghenion."

Mae ymgynghori â phreswylwyr ynghylch perfformiad yn ofyniad allweddol o'r Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau. Arolwg Preswylwyr Sir Gâr 2025 yw'r pedwerydd arolwg mewn sgwrs sy'n datblygu gyda phreswylwyr o ran hyn o beth.